Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn gyfrifol am ddarparu gwybodaeth am ddiogelwch y cyhoedd, rhaglenni atal ac amddiffyn, a gwasanaeth ymateb brys ar gyfer canolbarth a gorllewin Cymru.
Gellir rhannu gwaith Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru gyda Phlant a Phobl Ifanc yn bedwar maes gwahanol, sef: Cadetiaid Tân, Ffenics, Addysg a Chyneuwyr Tanau.
Mae Bwrdd Tân Gwyllt Cymru yn ddull amlasiantaethol o ddeall a rheoli'r risg o danau gwyllt yn well ar yr amgylchedd a chymunedau Cymru.
Mae gweithio i'r gwasanaeth tân ac achub yn rôl uchel ei pharch yn y gymuned. Rydym yn dibynnu ar dîm o bobl sydd â chymysgedd o sgiliau a phrofiad i ddarparu gwasanaeth rheng flaen effeithiol a gwneud ein rhanbarth yn fwy diogel rhag tân.
Dweiswch eich iaith : Choose your language:
Mae'r gwasanaeth yn cyflogi dros 1,350 o aelodau staff ac rydym yn cwmpasu tua 4,500 milltir sgwâr - bron i ddwy ran o dair o Gymru. Rydyn ni yma i wneud canol a gorllewin Cymru yn lle mwy diogel i fyw ynddo.
Gweledigaeth y Gwasanaeth yw bod yn sefydliad o safon fyd-eang, ond ni fydd hyn yn digwydd trwy hap a damwain, ac mae’n galw am osod amcanion uchelgeisiol. Felly, rydym wedi mabwysiadu amrywiaeth eang o brosesau rheoli, sy’n cwmpasu graddau llawn gweithgareddau’r sefydliad, er mwyn ein helpu i gyflawni ein Gweledigaeth.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi ymrwymo i wario arian yn gyfrifol a'i wario lle bydd yn fwyaf effeithiol. Rydym yn buddsoddi'n sylweddol mewn rhaglenni atal ac addysg i wneud Canol a Gorllewin Cymru yn lle diogel i fyw, gweithio ac ymweld.
Mae cydraddoldeb ac amrywiaeth wrth wraidd yr hyn a wnawn fel Gwasanaeth. Mae nid yn unig yn siapio sut rydyn ni'n ymgysylltu ac yn ymgynghori â'n cymunedau, ond hefyd yn dylanwadu ar y ffordd rydyn ni'n darparu ein gwasanaethau.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn gweithio i Safonau’r Gymraeg a osodir gan Gomisiynydd y Gymraeg er mwyn sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg, ac i hybu a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn gweithio i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, disbyddu adnoddau a materion llygredd.
Mae'r Ddeddf yn sefydlu Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyfer pob ardal awdurdod lleol yng Nghymru. Fel partner statudol o chwe bwrdd, rhaid i bob bwrdd wella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ei ardal trwy weithio i gyflawni'r nodau llesiant.
Mae'r Gwasanaeth yn ymrwymedig i dryloywder ac atebolrwydd wrth sicrhau ei fod yn rheoli ei holl wybodaeth mewn modd diogel.
Isod ceir dolenni i amrywiaeth adrannau, sy'n manylu ynghylch ein hymagwedd at wybodaeth a sut yr ydym yn ei rannu gydag eraill.
Mae'r Osgordd Baneri’n cynnwys grŵp o bersonél presennol ac wedi ymddeol sy'n cynrychioli'r Gwasanaeth mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn galendr.