Rôl yr adran Adnoddau Dynol yw datblygu a chynorthwyo cynlluniau’r Gwasanaeth i recriwtio, datblygu a chadw gweithwyr sy’n perfformio’n dda, mewn amgylchedd teg a chefnogol.
Mae’r adran wedi’i threfnu yn ôl pum swyddogaeth fewnol: Cysylltiadau â'r Gweithwyr, Iechyd Galwedigaethol, Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, Gweinyddu Adnoddau Dynol a Gweinyddu Corfforaethol. Ar y cyd, mae’r adran yn ymdrin ag amodau a thelerau cyflogaeth, ffurfio polisïau, cymorth a gweithredu, monitro absenoldeb, iechyd a lles, newid diwylliannol, recriwtio, prosesu data am weithwyr a gwasanaethau blaen tŷ.
Mae'r adran hefyd yn cynnwys swyddogaeth cyflogres y Gwasanaeth, sy'n delio â phob mater sy'n ymwneud â chyflogau a threuliau ar gyfer Cynghorwyr a staff, yn ogystal â materion trethiant uniongyrchol.