Mae tanau mewn carafannau a phebyll yn ymledu'n gyflym ac, yn aml, dim ond un fynedfa sydd ar gael, sy'n golygu ei bod yn ofynnol i chi fod yn arbennig o wyliadwrus er mwyn atal tân rhag cynnau.
Sicrhewch eich bod yn gwybod lle yr ydych. Os bydd tân yn cynnau, gwnewch yn siŵr y gallwch ddisgrifio eich lleoliad i'r gwasanaeth tân a bod gennych gofnod o'ch cyfeirnod grid (gallwch ddod o hyd i hwn ar yr ap OS Locate sydd ar gael am ddim ar ffonau Android (agor yn ffenest/tab newydd) ac iPhone (agor yn ffenest/tab newydd)), neu dirnodau arwyddocaol yn yr ardal gyfagos. Bydd y mesurau hyn i gyd yn sicrhau bod y gwasanaethau brys yn eich cyrraedd cyn gynted â phosibl.
