Darganfyddwch a yw bod yn Ddiffoddwr Tân yn iawn i chi!

Wedi bod yn meddwl am ddod yn ddiffoddwr tân ers tro? Efallai nad ydych wedi llwyddo i fynd amdani eto! Mae mynd i Ddiwrnod Profiad y Gwasanaeth Tân yn ffordd wych o’ch helpu i wneud penderfyniad gwybodus cyn mynd ati i wneud cais.

Er bod angen cofrestru neu fynegi diddordeb ymlaen llaw ar gyfer rhai, mae eraill yn fwy anffurfiol ac ar ffurf diwrnod agored.

Y naill ffordd neu'r llall, eu diben yw meithrin ymwybyddiaeth ac annog aelodau'r gymuned i weld a oes ganddynt yr hyn y mae ei angen i ymuno â'r Gwasanaeth Tân ac Achub.

Mid and West Wales Fire and Rescue Service logo on a Fire appliance door

Mae manteision gweithio gyda ni yn cynnwys

Cyfeillgar i deuluoedd

Oriau gweithio hyblyg

Disgowntiau i drydydd partïon

Gwyliau blynyddol rhagorol

Beth sy'n digwydd yn ystod Diwrnod Profiad y Gwasanaeth Tân?

Y nod yw darparu awyrgylch hamddenol, cyfeillgar lle gall aelodau o'r cyhoedd sydd â diddordeb roi cynnig ar agweddau gwahanol ar y swydd.

Bydd diffoddwyr tân Amser Cyflawn neu Ar Alwad cyfredol ar gael ar gyfer sgyrsiau anffurfiol am eu cyfrifoldebau o ddydd i ddydd a realiti’r proffesiwn. Ar gyfer diwrnodau profiad lle mae angen cofrestru eich presenoldeb ymlaen llaw, yn aml bydd yna sesiwn holi ac ateb ddynodedig gyda'r criw, y timau recriwtio a'r staff adnoddau dynol.

Firefighter in the cab of a fire appliance

Diwrnodau Profiad

A ydych yn meddwl bod gennych yr hyn y mae ei angen? Beth am archebu lle ar un o'n diwrnodau profiad?

Noder: Bydd y system archebu yn mynd yn fyw yr wythnos yn arwain at bob Diwrnod Profiad, a bydd yn cau ddeuddydd cyn y digwyddiad.

Pryd Ble Amser Sut i wneud cais
09/08/2023 Canolfan Hyfforddi Earlswood, Jersey Marine, Abertawe, SA10 6NG 09:30 i 12:30 Archebwch Nawr.
12/08/2023 Canolfan Hyfforddi Earlswood, Jersey Marine, Abertawe, SA10 6NG 14:00 i 17:00 Archebwch Nawr.
22/08/2023 Canolfan Hyfforddi Earlswood, Jersey Marine, Abertawe, SA10 6NG 09:30 i 12:30 Archebwch Nawr.
31/08/2023 ​Gorsaf Dân Hwlffordd, 49 Merlins Hill, Hwlffordd, Sir Benfro SA61 1PE 09:30 i 12:30 Archebwch Nawr.
Two Firefighters checking their personal protective equipment

Yr hyn y gellir ei ddisgwyl

Nod ein Diwrnod Blasu teirawr o hyd yw i chi ddysgu am yr amrywiol rolau a'r gofynion mynediad yn y Gwasanaeth Tân, ac am y rôl ehangach y mae'r Gwasanaeth Tân yn ei chwarae yn y gymuned, gan gynnwys:

  • rôl diffoddwr tân modern
  • gwisgo cit a chyfarpar diffodd tanau amdanoch
  • gwahanol agweddau'r broses recriwtio
  • pwysigrwydd ffitrwydd a chynnal ffitrwydd
  • y gwahanol fathau o gyfarpar a chyfarpar diogelu personol
  • llwybrau gyrfa a mapiau rolau
A Firefighter rolling up a fire hose under the supervision of a training officer