Ewch i'n e-lyfrgell ar-lein i weld ein Llenyddiaeth Diogelwch Cymunedol.
Mae ymateb i wrthdrawiadau ar y ffordd yn rhan bwysig o’n gwaith, ac yn aml caiff ein diffoddwyr tân eu galw i helpu i ryddhau modurwyr sy’n sownd neu i wneud cerbydau’n ddiogel yn dilyn digwyddiad.
Rydym eisiau lleihau’r nifer o farwolaethau ac anafiadau ar ein ffyrdd, ac rydym yn gweithio’n agos gyda’n partner wasanaethau brys ac asiantaethau eraill, i addysgu pobl am ddiogelwch ar y ffordd.
Mae ein partneriaid sy'n gweithio yn y maes hwn yn cynnwys sefydliadau fel:
- De Cymru Gwasanaeth Tân ac Achub (yn agor yn ffenest/tab newydd) a
- Gogledd Cymru Gwasanaeth Tân ac Achub (yn agor yn ffenest/tab newydd) a mentrau sy'n cynnwys
- Diogelwch Ffyrdd Cymru (yn agor yn ffenest/tab newydd),
- GanBwyll (yn agor yn ffenest/tab newydd),
- Brake (yn agor yn ffenest/tab newydd),
- ROSPA (yn agor yn ffenest/tab newydd),
- Think! (yn agor yn ffenest/tab newydd) a'r
- Department For Transport (yn agor yn ffenest/tab newydd).
Gwiriad P.O.W.D.E.R.S;
Betrol (Petrol)
Cadwch eich tanc o leiaf chwarter llawn rhag ofn i chi redeg allan o betrol yn ystod eich siwrnai. Bydd hyn yn eich atal rhag torri i lawr ar ffordd brysur neu ar draffordd a pheryglu’ch hun ac eraill.
Olew (Oil)
Rhaid i chi wneud yn siŵr bod gennych ddigon o olew rhag ofn i’ch injan gloi a thorri i lawr.
Dŵr (Water)
Gwnewch yn siŵr bod gennych ddigon o oerydd.
Gwnewch yn siŵr bod gennych chi ddigon o hylif golchi sgrin fel y gallwch lanhau’ch eich sgrin wynt a gweld y ffordd o’ch blaen yn glir.
Cadwch botel o ddŵr yn y cerbyd rhag argyfwng.
Difrod (Damage)Gwiriwch rhag difrod, yn cynnwys weipars.
Trydan (Electric)
Gwiriwch fod eich goleuadau’n gweithio - maent yn bwysig i chi a gyrwyr eraill fel y gallant ddeall sut yr ydych chi’n gyrru’ch cerbyd a beth yr ydych chi am ei wneud nesaf.
Rwber (Rubber)
Mae’r gyfraith yn dweud bod rhaid i’ch teiars fod â dyfnder o 1.6mm o leiaf.
1.0mm ydi’r isafswm dyfnder ar gyfer beiciau modur yn y DU. Gwiriwch eich teiars rhag craciau am nad ydynt wedi cael eu defnyddio neu am eu bod yn hen. Gallwch gael dirwy o £2,500 a 3 pwynt ar eich trwydded os ydi’ch teiars yn anghyfreithlon.
Fe all gyrru gyda gormod neu dim digon o aer yn eich teiars effeithio ar eich pellter brecio, llywio, effeithlonrwydd tanwydd ac oes eich teiars.
Chi eich hun (Self)
Gwnewch yn siŵr nad ydych wedi blino ac nad ydych dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau. Cynlluniwch eich siwrnai a threfnwch egwyliau
Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
Pencadlys Gwasanaeth
Heol Llwyn Pisgwydd,
Caerfyrddin
Sir Gâr
SA31 1SP
Ewch i'n Ffurflen Cyswllt
Ffôniwch ar 0370 6060699