Prosiect Ffenics



Prosiect Ffenics



Mae Prosiect Ffenics yn ymyriad noddir gan y Llywodraeth Cymraeg sydd wedi'i anelu at bobl ifanc rhwng 11 - 25 oed, sy'n cael eu hystyried yn haen un - wedi troseddu, neu haen dau - ar fin troseddu neu sy'n agored i niwed. Mae haen un a haen dau yn cael eu diffinio gan Lywodraeth Cymru.



Mae’n herio agweddau presennol ac yn hyrwyddo meddwl annibynnol mewn pobl ifanc trwy ddefnyddio gweithgareddau'r gwasanaeth tân i ddatblygu priodoleddau personol megis gweithio fel tîm, archwilio cyfyngiadau corfforol a meddyliol a hyrwyddo ac addysgu pobl ifanc ynghylch rôl y gwasanaeth tân ac achub. 



Dros 5 diwrnod, bydd pobl ifanc yn cymryd rhan yn rhai o weithgareddau'r Gwasanaeth Tân ac Achub megis ymarferion pibelli dŵr, defnyddio ysgolion a chwilio ac achub. Ceir nifer o gyfleoedd ar gyfer hunan archwilio megis ymdopi o dan bwysau, gweithio yn rhan o dîm a delio â thasgau ymdrechgar. Trwy’r wythnos, cefnogir y bobl ifanc ym mhob ffordd i gael y gorau ohonynt a chânt eu cefnogi bob amser gan dîm ymroddgar. Erbyn diwedd yr wythnos, bydd y bobl ifanc wedi cael cipolwg gwerthfawr ar rôl y diffoddwyr tân a’r gweithgareddau yn y gwasanaeth tân. Daw’r wythnos i ben ag arddangosiad o’u sgiliau a chyflwyno tystysgrifau. Bydd y bobl ifanc yn gadael y prosiect â synnwyr newydd o hyder, balchder a hunan barch.

Mae Prosiect Ffenics yn cael ei achredu gan Agored Cymru (yn agor mewn ffenestr / tab newydd). Mae tair uned QALL (Sicrwydd Ansawdd Dysgu Gydol Oes) yn cael eu cwblhau drwy gydol yr wythnos ac yn cofnodi yn y llyfr gwaith Prosiect Ffenics. Mae'r unedau ar gael ar hyn o bryd ar lefel dau ac un.

Anelir y cwrs at bobl ifanc a chanddynt broblemau sy’n gysylltiedig â thanau megis galwadau ffug a thanau bwriadol, neu ar gyfer y rhai sy’n ymddwyn yn wrthgymdeithasol neu’n droseddol.

Gall pobl ifanc a chanddynt y problemau canlynol hefyd elwa o fynd ar gwrs Ffenics:​

  • Diffyg hyder, hunan-barch isel
  • Ymdrechu i berfformio’n academaidd
  • Problemau cyfathrebu
  • Anodd ymgysylltu â nhw
  • Angen cyfeiriad galwedigaethol
  • Mewn perygl o fynd i drafferthion
  • Yn agored i bwysau gan gyfoedion

Cydlynydd Tîm Gwasanaeth Ieuenctid - Prosiect Phoenix
Lleihau Risg Cymunedol,
Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru,
Heol Llwyn Pisgwydd,
Caerfyrddin,
Sir Gaerfyrddin,
SA31 1SP

Ffôn: 0370 60 60 699
E-bost: phoenix@tancgc.gov.uk​