Plant a Phobl Ifanc

Gellir rhannu gwaith Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru gyda Phlant a Phobl Ifanc yn bedwar maes gwahanol, sef: Cadetiaid Tân, Ffenics, Addysg a Chyneuwyr Tanau.



Gellir rhannu gwaith Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru gyda Phlant a Phobl Ifanc yn bedwar maes gwahanol, sef: Cadetiaid Tân, Ffenics, Addysg a Chyneuwyr Tanau.

Cadét Tân

Mae'r Cadetiaid Tân yn rhaglen a gydnabyddir yn genedlaethol, ac mae'n ffordd wych i bobl ifanc gael hwyl, gwneud ffrindiau, ennill cymhwyster, datblygu eu sgiliau a meithrin eu hyder.

Fire Cadets

Prosiect Fenics

Mae Prosiect Ffenics yn ymyriad noddir gan y Llywodraeth Cymraeg sydd wedi'i anelu at bobl ifanc rhwng 11 - 25 oed, sy'n cael eu hystyried yn haen un - wedi troseddu, neu haen dau - ar fin troseddu neu sy'n agored i niwed.

Phoenix Project

Addysg

Nod y rhaglen addysg diogelwch rhag tân yw tynnu sylw at, a chreu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd cadw’n ddiogel rhag tân.

Fire Safety Education

Cyneuwyr Tanau

Mae gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru dri chynllun gwahanol, i weithio gyda Phlant a Phobl Ifanc sy’n chwarae â thân. Derbynnir atgyfeiriadau oddi wrth rieni / gwarcheidwaid, Diffoddwyr Tân ac asiantaethau partner. Cânt eu hasesu fel y gellir dod o hyd i raglen addas.

Fire Setter Intervention


Diogelu



Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn ymrwymedig i ddiogelwch a llesiant y bobl yn ein cymunedau. Mae gennym gyfrifoldeb ar y cyd ag asiantaethau partner i sicrhau ein bod yn mynd ati'n weithredol i atal niwed ac yn cyflawni'r canlyniadau gorau i aelodau ein cymunedau. 

Mae hyn yn cynnwys Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV). Rydym yn falch o'n statws Rhuban Gwyn ac yn ymrwymedig i ofynion proses Gofyn a Gweithredu 2015Am mwy o wybodaeth am Gofyn a Gweithredu, ewch i safle we Llywodraeth Cymru (yn agor mewn ffenest / tab newydd).

Mae 'Gweithdrefnau Diogelu Cymru' yn sail i'n Polisïau a'n Gweithdrefnau. Am mwy o wybodaeth am Gweithdrefnau Diogelu Cymru ewch i wefan Plant yng Nghymru (yn agor mewn ffenest / tab newydd).

Mae pob aelod o staff sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc yn cael gwiriad DBS manylach ac yn dilyn hyfforddiant Diogelu. 

I sicrhau arfer da, rydym yn gweithio mewn cysylltiad agos â Byrddau Diogelu Bae'r Gorllewin (yn agor mewn ffenest / tab newydd), Byrddau Diogelu Rhanbarthol Cysur (yn agor mewn ffenest / tab newydd), a Chyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân (yn agor mewn ffenest / tab newydd). Mae aelodau o'n Tîm Diogelu yn gweithio ledled pob ardal yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, ac maent ar gael i gynnig cymorth ac arweiniad.