Ddydd Llun, 23/05/2022 am 11:47am, cafodd diffoddwyr tân o Drefaldwyn eu galw i dân mewn sied yn ardal Yr Ystog, Trefaldwyn. Roedd y tân wedi tarddu o goelcerth a osodwyd yn rhy agos at y sied ac roedd hefyd wedi lledu i glawdd cyfagos. Diffoddwyd y tân ddiffoddwyr tân yn defnyddio dwy jet rîl pibell a chamera delweddu thermol. Gadawodd y Gwasanaeth Tân y digwyddiad am 01:15 ...
Croeso i Ystafell Newyddion Gwasanaeth Tân ac Achub Gorllewin a Canolbarth Cymru. Eich ffynhonell ar gyfer newyddion diweddaraf, digwyddiadau ac ymgrchoedd y Gwasanaeth.

Digwyddiad Beicio Elusennol
Ar 30 Ebrill, yn arena Swansea.com yn Abertawe, llwyddodd sgwad o 12 o ddiffoddwyr tân amser cyflawn newydd eu recriwtio i gwblhau 1,000,025 metr ar feiciau sbin, a hynny mewn ymgais i godi arian ar gyfer Elusen y Diffoddwyr Tân ac Elusen 2wish.

Wythnos Diogelwch Deall Peryglon Dŵr 2022
Bydd Ymgyrch Cyngor Cenedlaethol y Prif Swyddogion Tân, Deall Peryglon Dŵr, yn cael ei lansio yr wythnos hon.

Cyflwyno pedwar peiriant yn rhodd i Wasanaethau Tân Wcráin
Fel arwydd o gefnogaeth i ddiffoddwyr tân Wcráin, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi cyflwyno pedwar peiriant yn rhodd i'r gwasanaethau tân yn Wcráin. Ddydd Mawrth 19 Ebrill 2022, gadawodd peiriant tân ac uned ymateb i ddigwyddiadau Ganolbarth a Gorllewin Cymru i ymuno â chonfoi tân ac achub ledled y DU a fydd yn teithio ar draws Ewrop cyn hir i ddan ...

Cerddor yn parhau i gadw’r curiad yn dilyn ataliad y galon diolch i gyd-ymatebwyr meddygol
MAE cerddor poblogaidd yn parhau i gadw’r curiad yn dilyn dioddef ataliad y galon, diolch i griw tân ac achub ym Mhowys wledig. Tîm o ymladdwyr tân wrth gefn o Lanfyllin, sydd hefyd yn gweithredu fel Cyd-ymatebwyr ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, oedd y cyntaf i gyrraedd lleoliad ataliad y galon yn eu pentref. Gan roi eu hyfforddiant a’u hoffer ar waith llwyd ...

Cadwch yn Ddiogel ar ein Ffyrdd y Gwanwyn hwn – Wythnos Diogelwch Beiciau Modur 11-17 Ebrill
Mae'r gwanwyn yn bendant wedi cyrraedd, ond, gyda'r haul yn tywynnu a'r tywydd yn sych, mae'r Gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru yn pryderu'n gynyddol am ddiogelwch y rhai sy'n defnyddio'r ffyrdd, ac yn enwedig beicwyr modur

Mae Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi cyhoeddi Cynllun Strategol 2022-2027 a Chynllun Gwella Busnes Blynyddol 2022-2023.
Mae'r Cynllun Strategol yn nodi gweledigaeth, cenhadaeth a gwerthoedd yr Awdurdod. Cyflawnir yr ymrwymiadau a amlygir yn y Cynllun Strategol trwy ddarparu Cynllun Gwella Busnes Blynyddol, a fydd yn tynnu sylw at yr hyn y byddwn yn ei wneud yn y flwyddyn fusnes nesaf er mwyn cyflawni yn unol â'n Hymrwymiadau ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Mae ein Cynllun Gwella Busnes Blynyddol ...

Gair i Ddweud Ffarwél gan y Prif Swyddog Tân, Chris Davies QFSM
Ar ôl 37 mlynedd o wasanaeth ymroddedig, mae Chris Davies QFSM, ein Prif Swyddog Tân, yn ymddeol. Yn ystod ei wythnosau olaf, cyn iddo drosglwyddo'r awenau i Roger Thomas, ein Prif Swyddog Tân newydd, eisteddodd Chris gyda'r Adran Cyfathrebu Corfforaethol a Datblygu Busnes i hel atgofion am yrfa ddisglair a wasanaethodd â balchder mawr. "Ymunais â'r Gwasanaeth Tân ac Ach ...
Ramadan
Hoffai Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ddymuno 'Ramadan Mubarak' i gymunedau Mwslimaidd Canolbarth a Gorllewin Cymru, a chynnig cymorth a chyngor iddynt tra byddant yn cadw'r cyfnod sanctaidd Ramadan. Mae'n hanfodol bod pobl bob amser yn cymryd gofal ychwanegol wrth goginio yn eu cartref, ac yn enwedig ar adegau pan fyddant wedi blino, megis yn y cyfnod hw ...

Diogelwch Ffyrdd Cymru - Hysbysiad I'r Wasg
Mae'r gyfraith ar ddefnyddio ffôn symudol weth yrru wedi newid O heddiw ymlaen, 25 Mawrth 2022, mae'r gyfraith ar ddefnyddio ffôn symudol wrth yrru wedi dod yn llymach. Ers 2003, pan ddaeth yn drosedd benodol i ddefnyddio ffôn symudol i’r dwylo neu ddyfais debyg wrth yrru, mae ffonau symudol wedi datblygu i allu gwneud mwy na gwneud galwadau ffôn neu anfon negeseuon testun y ...
Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
Pencadlys Gwasanaeth
Heol Llwyn Pisgwydd,
Caerfyrddin
Sir Gâr
SA31 1SP
Ewch i'n Ffurflen Cyswllt
Ffôniwch ar 0370 6060699