Mae'r Tîm Atal Tanau Bwriadol yn dîm datrys problemau yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, ac mae'n ymrwymedig i atal a dileu gweithgarwch cynnau tanau bwriadol. Mae'r tîm yn cynnwys Swyddog Heddlu ar secondiad, Swyddog Tân a thri chynghorydd arbenigol llosgi bwriadol, sy'n sicrhau yr ymchwilir i bob digwyddiad, a'i fod yn cael ei ddadansoddi, er mwyn gwneud ein cymunedau'n fwy diogel. Mae'r tîm yn gweithio'n agos gyda'i bartneriaid i dargedu ardaloedd problemus, ac i ddatblygu ffyrdd yn gyson o leihau llosgi bwriadol, yn ogystal â nodi ar bwy neu beth y gallai hyn effeithio. 

Ariennyr y prosiect lleihau llosgi bwriadol gan Lywodraeth Cymru.

Ariennyr yn rhannol gan llywodraeth Cymru

Beth y mae cynnau tanau bwriadol yn ei olygu i'ch cymuned chi?
Rydym wedi gweld bod tanau bwriadol nid yn unig yn dinistrio cartrefi a bywydau, ond eu bod hefyd yn gallu distrywio'r amgylchedd. Mae lleihau tanau bwriadol yn helpu i warchod y lleoedd lle rydym yn byw, yn gweithio, yn dysgu, ac yn treulio ein hamser hamdden. Rydym am warchod ein cymunedau rhag ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n gysylltiedig â chynnau tanau, er enghraifft tipio anghyfreithlon, llosgi gwastraff peryglus neu anghyfreithlon, a fandaliaeth mewn ysgolion a cholegau. Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym hefyd wedi gweld cynnydd yn y bygythiad o danau bwriadol sy'n deillio o gam-drin a thrais domestig yn y cartref, a thrwy gyfrwng ein nodau ar y cyd, byddwn yn ymdrechu i nodi'r digwyddiadau hyn trwy sicrhau ymwybyddiaeth ehangach o bob un o Bartneriaid y Cyd-grŵp Tanau Bwriadol, er mwyn dod â chyflawnwyr o'r fath o flaen eu gwell, gan sicrhau bod ymateb effeithiol ar waith ar yr un pryd i gefnogi dioddefwyr troseddau o'r fath. Mae arnom eisiau cyflwyno newid diwylliannol ledled Cymru, fel bod cymunedau yn ystyried tanau bwriadol yn annerbyniol yn gymdeithasol, gan gyfrannu'n weithredol at gydnerthedd cymunedol.

Mae’r Strategaeth Lleihau Tanau Bwriadol (PDF, 654Kb)yng Nghymru yn amlinellu ein dull o sicrhau gostyngiad parhaus yn nifer yr achosion o danau sy’n cael eu cynnau’n fwriadol ar hyd a lled Cymru, ynghyd â’u heffaith. Fe’i datblygwyd gan y Bwrdd Strategol ar gyfer Lleihau Tanau Bwriadol, a chaiff ei rhoi ar waith gan y Cyd-grŵp Tanau Bwriadol.​

Gall tanau bwriadol a throseddau sy'n gysylltiedig â thân arwain at y canlynol:

Yr effaith
Mae effeithiau tanau gwyllt yn niferus ac yn eang. Gallant gael effeithiau sylweddol ar economi, amgylchedd, treftadaeth a gwead cymdeithasol ardaloedd gwledig. Mae'r costau economaidd yn amrywio o'r costau uniongyrchol sy'n gysylltiedig ag adnoddau brys, i golli incwm o'r tir yn dilyn digwyddiadau tanau gwyllt a difrod i eiddo. –

Yr hyn a wnawn
Mae'r Tîm Atal Tanau Bwriadol a'r Swyddog Cyswllt Fferm yn gweithio gyda thimau rheoli tir/cominwyr/porwyr i gyflwyno Polisi Tanau Gwyllt (sef cod llosgi grug a glaswellt y llywodraeth) – llosgi dan reolaeth (rhwng misoedd Mawrth a Thachwedd), ynghyd â chyflwyno rhwystrau tân. Rydym yn cydgysylltu â phartneriaid i gynnal patrolau a gwyliadwriaethau mewn ardaloedd problemus, a hynny gan ddefnyddio technoleg tebyg i gerbydau awyr di-griw a theledu cylch cyfyng i atal a chanfod troseddau.

Yr effaith
Mae yna ormod o danau awyr agored bob blwyddyn yng Nghymru sy'n gofyn am ein hymateb brys, ac mae tua hanner yr holl danau awyr agored hyn yn cynnwys sbwriel a deunyddiau wedi'u tipio.

Amcangyfrifir bod y gost gyfartalog am ymateb i bob digwyddiad o'r fath rhwng £1,500-£2,000, sy'n golygu bod y gost flynyddol i'r Gwasanaeth yn y miliynau.??? Mae tipio anghyfreithlon a llosgi gwastraff yn anghyfreithlon yn effeithio ar y gymuned; maent yn diraddio ardaloedd trwy gynyddu nifer y troseddau ac effeithio ar ddiogelwch ac iechyd pobl, yn ogystal â rhoi straen ar adnoddau lleol o ganlyniad i'r gweithrediadau ymateb a glanhau.

Yr hyn a wnawn
Rydym yn gweithio'n agos gydag adrannau gorfodaeth gwastraff yr awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru a Taclo Tipio Cymru i roi cyngor i'r cyhoedd ar fod yn gyfrifol am eu gwastraff/cludwyr gwastraff cofrestredig a'u safleoedd amwynderau lleol eu hunain. Mae'r Tîm yn cefnogi mentrau, a gall gynorthwyo gyda chamau gorfodi, a'u hyrwyddo, er mwyn erlyn cyflawnwyr troseddau. Rydym yn gwneud hyn trwy rannu cymaint o wybodaeth â phosibl, nodi'r bobl hynny y gallai'r troseddau effeithio arnynt, a sicrhau bod diogelwch pobl yn flaenoriaeth.

Yr effaith
Mae yna nifer eang o ganlyniadau yn deillio o roi eiddo, gan gynnwys adeiladau a cherbydau, ar dân yn fwriadol. Pa un ai car neu sied sy'n cael eu llosgi, mae rhywun yn rhywle, rywfodd, yn debygol o golli eiddo. Rhaid i'r gwasanaethau brys ddelio â'r canlyniad, a rhaid i nifer o asiantaethau lanhau a darparu cymorth i'r dioddefwyr.

Yr hyn yr ydym yn ei wneud
Yn y bôn, yr Heddlu sy'n delio â throseddau tanau bwriadol, ond mae gennym ran weithredol i'w chwarae o'r cychwyn cyntaf. Rydym yn gweithio gydag asiantaethau eraill i nodi ymddygiadau a thueddiadau a all arwain at ddifrod troseddol a thanau bwriadol. Yn allweddol i ni hefyd y mae ymgysylltu â'r gymuned er mwyn meithrin ymwybyddiaeth ac edrych ar ffyrdd o atal tanau bwriadol mor gynnar â phosibl, o ymateb mewn modd effeithiol, ac o gefnogi'r bobl yr effeithir arnynt. Mae'r risgiau tân sy'n gysylltiedig â cherbydau gadawedig yn amlwg, ac maent yn aml yn gweithredu fel magnet i ymddygiad gwrthgymdeithasol pellach, sy'n arwain at ddirywiad cyson yn ein cymunedau. Mae'r tîm yn cydweithredu mewn prosiectau amlasiantaethol sy'n anelu at atal cerbydau rhag cael eu gadael, ac sydd hefyd yn gweithio tuag at adnabod unigolion sy'n gyfrifol am losgi cerbydau, neu sy'n debygol o wneud hynny. Rydym yn gwneud y gwaith hwn gyda thimau troseddwyr ifanc, timau plismona yn y gymdogaeth, a phersonél gweithredol, a hynny trwy addysg, ymwybyddiaeth yn y gymuned, cydweithredu a gorfodi.

Rydym hefyd yn gwneud rhagor

Rydym hefyd yn cymryd rhan mewn nifer o ymgyrchoedd amlasiantaeth sy'n ceisio mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a'i gysylltiad â chynnau tanau yn fwriadol. Rydym yn cydgysylltu, yn asesu ac yn cydweithredu yn achos gweithrediadau arbennig, er enghraifft “YMGYRCH BANG” a “DAWNS GLAW”.

Rydym yn arddel dull 'cynhwysol' er mwyn cynnal a datblygu partneriaethau â sefydliadau a chymunedau eraill, a helpu i ddeall eu hanghenion ac effaith cynnau tanau yn fwriadol arnynt

Mae'r tîm yn cydnabod effeithiau eraill ac yn eu hatgyfeirio at ddarparwyr eraill a all roi cyngor a darparu mecanweithiau cymorth mewn perthynas â: pobl yr effeithiwyd arnynt, tarfu ar y gymuned, agweddau amgylcheddol ac economaidd.

Beth y gallwch CHI ei wneud ar gyfer eich cymuned?

Mae tanau bwriadol yn aml yn distrywio teuluoedd, yn achosi dirywiad mewn ardaloedd a'r rheiny wedyn yn denu ymddygiad gwrthgymdeithasol, yn tarfu ar ecosystemau bregus, ac yn difetha cynefinoedd bywyd gwyllt, ond gallwch helpu.

Os byddwch yn gweld rhywun yn cynnau tân glaswellt bwriadol (ffoniwch yr heddlu lleol) neu'n dod o hyd i dystiolaeth o hynny ffoniwch ni ar 0370 6060 699 neu ebostiwch arson.reduction@mawwfire.gov.uk

Os byddwch yn clywed am rywun sy'n bygwth cynnau tân bwriadol, neu'n amau bod rhywun yn mynd i wneud hynny, rhowch wybod i rywun arall

Fearless
Mae Fearless yn safle lle gall pobl ifanc gael gafael ar wybodaeth a chyngor anfeirniadol am droseddu a throseddoldeb. Am mwy o wybodaeth ewch i safle we FearlesS (agor yn ffenest/tab newydd).

Crimestoppers
Mae Crimestoppers yn elusen annibynnol sy'n rhoi pŵer i bobl godi llais ac atal troseddu - 100% yn ddienw. Am mwy o wybodaeth ewch i safle we Crimestoppers (agor yn ffenest/tab newydd).

A ydych wedi gweld unrhyw dipio anghyfreithlon, neu a ydych yn gwybod am rywun sy'n cynnig cael gwared ar sbwriel mewn modd anghyfreithlon? Gallech gysylltu â:

Eich Awdurdod Lleol

Taclo Tipio Cymru
Mae Taclo Tipio Cymru yn fenter partneriaid wedi cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru a chyd-drefni gan Gyfoeth Naturiol Cymru. Am mwy o wybodaeth ewch i safle we Taclo Tipio Cymru (yn agor yn ffenest/tab newydd)