Gall byw oddi cartref, yn enwedig os yw am y tro cyntaf, fod yn gyffrous iawn ac mae'n hawdd cael eich dal ym mywyd myfyrwyr ac anghofio am iechyd, diogelwch a lles eich hun a'r rhai o'ch cwmpas.
Dylai pob myfyriwr gymryd cyfrifoldeb personol am edrych ar ôl ei hun a'i gydletywyr i amddiffyn rhag peryglon tân a pheryglon eraill.
Gallai ein cyngor diogelwch fod yn un o'ch gwersi pwysicaf yn ystod eich amser yn y brifysgol neu'r coleg felly rydym yn eich annog i wneud peth amser i ymgyfarwyddo â'n harweiniad a'n hawgrymiadau sylfaenol. Un diwrnod gallai helpu i achub eich bywyd chi neu fywyd rhywun arall!