Rydym yn ymrwymedig i leihau’r nifer o danau damweiniol yn y cartref ar draws ardal ein Gwasanaeth.
Fel Gwasanaeth, rydym yn gweithio'n agos gyda'n cymunedau a'n partneriaid i wneud canolbarth a gorllewin Cymru yn lle mwy diogel i fyw, i weithio ac i ymweld ag ef. Ochr yn ochr â'r gwaith a wnawn gyda phobl ifanc, ymweliadau ag ysgolion a chynnal ymweliadau Diogel ac Iach, rydym yn gyfrifol hefyd am orfodi deddfwriaeth diogelwch tân.
Os oes gennych chi berthnasau, ffrindiau neu gymdogion a allai elwa o gael cyngor diogelwch tân, rhowch wybod iddynt am ein hymweliadau Diogel ac Iach. Rydym yn arbennig o awyddus i ymweld â phobl hŷn neu bobl agored i niwed gan eu bod nhw’n fwy tebygol o gael dolur mewn tân. Edrychwch ar ein hadran Diogel ac Iach i gael rhagor o wybodaeth.
Ffoniwch ni nawr i archebu ymweliad Safe and Well am ddim ar 0800 169 1234 neu llenwch ein ffurflen arlein (yn agor yn tab/ffenest newydd, ffurflen Saesneg yn unig).
O Asiantaeth? Gwnewch eich atgyfeiriad yma (yn agor yn tab/ffenest newydd, ffurflen Saesneg yn unig).
Yn y Cartref
Rydym yn ymrwymedig i leihau’r nifer o danau damweiniol yn y cartref ar draws ardal ein Gwasanaeth.
Eich gardd a'r Awyr agored
Ar y Ffordd
Mae ymateb i wrthdrawiadau ar y ffordd yn rhan bwysig o’n gwaith, ac yn aml caiff ein diffoddwyr tân eu galw i helpu i ryddhau modurwyr sy’n sownd neu i wneud cerbydau’n ddiogel yn dilyn digwyddiad.
Diogelwch Dŵr
Gyda'r addewid o dywydd cynhesach a'n tymor gwyliau nodweddiadol, rydym yn deall bod llawer yn cael eu temtio i oeri neu nofio mewn dyfroedd agored. Byddwch yn ymwybodol o ddŵr.
I gael mwy o wybodaeth, ewch i'n tudalennau diogelwch dŵr.
Yn y Gymuned
Rydym ni eisiau helpu’r cymunedau a wasanaethwn i fod yn ddiogel, ni waeth beth fo’r tywydd, yr achlysur neu’r digwyddiad. Mae gwahanol ddathliadau’n cael eu cynnal trwy gydol y flwyddyn ac yn aml mae’r tymhorau newidiol yn peri gwahanol beryglon tân.
Diogelwch Tân Busnesau
Mae ein Hadran Diogelwch Tân Busnesau a’n swyddogion arbenigol yn ymrwymedig i’ch helpu i ddeall risgiau tân ac i gydymffurfio â’r deddfwriaethau perthnasol.
Ewch i dudalen diogelwch tân busnesau am mwy o wybodaeth.
Diogelwch Tân Fferm
Mae ein Tîm Cyswllt Fferm a'n swyddogion arbenigol wedi ymrwymo i'ch helpu chi i ddeall peryglon tân. Felly, gadewch i ni gadw'ch fferm yn ddiogel, gyda'n gilydd.
I gael mwy o wybodaeth, ymwelwch â'n tudalennau Diogelwch Tân Fferm.
Lleihau Llosgi Bwriadol
Mae llosgi bwriadol a throseddau sy'n gysylltiedig â thân bob amser wedi cael eu hystyried yn her, gan weithio gyda'n partneriaid rydym yn sicrhau bod pob digwyddiad yn cael ei ymchwilio a'i weithredu yn y ffordd fwyaf priodol ac effeithiol.
Am mwy o wybodaeth ewch i'n tudalennau lleihau llosgi bwriadol.
Digelwch Myfyrwyr
Gall byw oddi cartref, yn enwedig os yw am y tro cyntaf, fod yn gyffrous iawn ac mae'n hawdd cael eich dal ym mywyd myfyrwyr ac anghofio am iechyd, diogelwch a lles eich hun a'r rhai o'ch cwmpas.
I gael mwy o wybodaeth, ewch i'n tudalennau diogelwch myfyrwyr.
Mynd i Ffwrdd
Os ydych chi'n mynd i ffwrdd, yna dilynwch ein canllawiau syml i sicrhau eich bod chi'n cael gwyliau diogel a hapus.
I gael mwy o wybodaeth, ewch i'n tudalennau diogelwch Mynd i Ffwrdd.