Cwestiynau a holir yn aml

Isod mae rhai cwestiynau ac atebion yr ydym yn aml yn delio â nhw. Os oes gennych gwestiwn nad yw'n cael sylw yma, cysylltwch â ni.

Mae rôl Diffoddwr Tân yn cynnwys llawer mwy na diffodd tanau. Gall eich rôl gynnwys ymateb i danau, llifogydd a gwrthdrawiadau traffig ffyrdd a darparu ymatebion meddygol, ynghyd ag addysgu'r gymuned, cynnal a chadw cyfarpar a chyflawni gwaith papur.

Wedi i ddiffoddwr tân gymhwyso, mae yna gyfleoedd i ddatblygu mewn rolau amgen ac i ddysgu sgiliau newydd, er enghraifft diogelwch cymunedol, hyfforddi a sgiliau mwy arbenigol. Pan fydd eich cymhwysedd wedi cael ei amlygu yn eich rôl gyfredol, gallwch anelu at ddyrchafiad trwy gofrestru ar un o'n rhaglenni penodol i ddatblygu rheolwyr.

Gallwch.

Mae ffurflen Asesiad Optometrig, y mae'n rhaid i Optegydd ei llenwi, yn cael ei chynnwys gyda'ch ffurflen gais.

Rhaid i recriwtiaid fodloni'r safonau gweld canlynol: 

  • Cywiradwy i 6/9 ym mhob llygad.
  • N12 30 cm i ffwrdd gyda'r ddau lygad ar agor – heb gymorth.
  • Maes golwg normal yn y ddau lygad (fel y'i pennir gan dechnegau cyfwynebu).
  • Dim hanes o nosddallineb (nyctalopia) na chlefyd ocwlar, sy'n debygol o waethygu ac achosi i safonau'r golwg fethu wedyn.
  • Lefel briodol o olwg lliw (dim mwy na dau wall adnabod yn y set Ishihara fel arfer). Caniateir i'r ymgeiswyr hynny sy'n methu'r safonau hyn sefyll profion golwg lliw mwy penodol, a drefnir gan y Meddyg Galwedigaethol sy'n cynghori'r Gwasanaeth.

Nac oes. Nid oes yna unrhyw gyfyngiadau o ran y taldra mwyaf na'r taldra lleiaf.

Dim.

Does dim angen unrhyw gymwysterau ffurfiol arnoch i wneud cais am swydd Diffoddwr Tân Ar Alwad. Mae gan y Gwasanaeth ei brofion ‘mewnol’ ei hun. (Gweler Cam 2 o’r Broses Ddethol)

Mae asesiad corfforol yn rhan o’r profion dethol (Gweler Cam 3 o’r Broses Ddethol)

Bydd dolenni i brofion ymarfer yn cael eu hanfon atoch pan fyddwch wedi cael gwahoddiad i wneud y profion.

Mae cymorth ar-lein ar gael hefyd, a gellir prynu llyfrau paratoi ar-lein. Mae'r rhain yn fuddsoddiad gwerth chweil gan eu bod yn rhoi awgrymiadau a chyngor. Nid yw'r rhain yn cael eu darparu gan GTACGC ond mae digon ar gael. Penderfyniad yr unigolyn yw gwneud hyn.


Diffoddwyr Ar Alwad


Gellir dod o hyd i Gyflogau Diffoddwyr Tân Ar Alwad yma

 

 

Ar hyn o bryd, mae'r Gwasanaeth yn chwilio'n bennaf am unigolion a all ddarparu lefel o wasanaeth Ar Alwad yn ystod y dydd. Fodd bynnag, gall hyn amrywio o orsaf i orsaf. Gallwch gael trafodaeth fanwl ar yr oriau argaeledd y gallech eu darparu yn ystod eich cyfarfod cychwynnol â'ch Swyddog Cyswllt Gorsaf.

Bydd yna hefyd nosweithiau driliau, cyrsiau hyfforddi a phrofion diogelwch cymunedol, a chewch eich talu i'w mynychu.

 

Cwblhewch y ffurflen mynegiant diddordeb ar-lein.
neu
Cysylltwch â’r Adran Adnoddau Dynol a mynegwch ddiddordeb yn y swydd uchod. 
Next process
Byddant yn nodi eich manylion a bydd Ffurflen Gais a Ffurflen Asesiad Optometrig (golwg) yn cael eu hanfon atoch chi.
Next process
Bydd y Swyddog Cyswllt Gorsafoedd yn cysylltu â chi i drefnu cyfarfod, i drafod y broses recriwtio ac i lenwi Ffurflen Oriau o Argaeledd.
Next process
Cyfarfod wedi’i gwblhau – Cyflwynwch eich Ffurflen Gais a’ch Ffurflen Asesiad Optometrig.
Next process
Ffurflen Gais wedi’i derbyn yn yr Adran Adnoddau Dynol

Next process

Os bydd y Cais a ffurflen yr Asesiad Optometrig yn cael eu hystyried yn foddhaol, byddwch yn cael gwahoddiad i ddod i Ddiwrnod Profi. Bydd canllawiau llawn yn cael eu darparu ar eich cyfer.

Next process

 

Wedi i'ch oriau argaeledd gael eu hystyried yn rhai addas, fe'ch gwahoddir i ddod i'r canlynol, lle disgwylir i chi gwblhau pob cam yn llwyddiannus:

  • Gwiriad Cefndir Troseddol
  • Archwiliad Meddygol
  • Dau Wiriad Geirda
  • Diwrnod Cynefino a Chwrs Recriwtiaid Cychwynnol

Bydd eich cais yn cael ei gadw ar ffeil nes y bydd swydd wag addas yn dod ar gael – bydd y gwasanaeth yn cysylltu â chi.

Byddwch yn cael adborth, ynghyd â gwahoddiad i gael eich ailasesu yn y prawf/profion y bu i chi ei fethu/eu methu.


Diffoddwyr Llawn Amser


Mae yna bum cam i'r broses: Sifft, Profion Gallu, Asesiadau Corfforol ac Ymarferol, Dethol ac Archwiliad Meddygol. Mae manylion llawn y broses a'r hyn y gallwch ei ddisgwyl i'w gweld yn ein Pecyn Recriwtio

 

 

 

Os ydych wedi ymuno â'r broses trwy ein Cofrestriad Ar-lein, ac wedi bodloni'r Meini Prawf Cymhwysedd sylfaenol, byddwch yn cael neges e-bost yn eich gwahodd i lenwi ein Hasesiad Ar-lein. Mae manylion yr asesiadau i'w gweld yn y Pecyn Gwybodaeth

Gellir dod o hyd i gyflogau Diffoddwyr Tân Llawn Amser yma

 

Mae Diffoddwyr Tân Amser Cyflawn yn gweithio rota 224. Mae hyn yn golygu dau ddiwrnod, dwy noson a phedwar diwrnod i ffwrdd. Mae'r Gwasanaeth yn gweithredu system rota sy'n cynnwys gofyniad i weithio oriau gwrthgymdeithasol, ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau cyhoeddus.