Gweithredu Cadarnhaol

Mae youtube.com wedi'i rwystro oherwydd eich dewisiadau cwci cyfredol, gallwch newid y rheini trwy glicio ar y botwm cwci yn y gornel dde isaf ar unrhyw dudalen.



Ein Hymrwymiad



Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi gwneud ymrwymiad cadarn i sicrhau cydraddoldeb ac amrywiaeth ymhlith y bobl yn ein sefydliad ac o ran y gwasanaethau yr ydym yn eu darparu i'n cymunedau. Rydym am adlewyrchu'r cymunedau a wasanaethwn, ac un ffordd y gallwn geisio cyflawni hyn yw trwy bolisi o 'weithredu cadarnhaol’. Mae gweithredu cadarnhaol yn weithgarwch sy'n helpu cyflogwyr i nodi a chael gwared ar y rhwystrau a'r problemau o ran cyflogi a chadw a sicrhau cynnydd pobl o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, ond gan hefyd barhau i gyflogi pobl ar sail eu teilyngdod. Nid yw gweithredu cadarnhaol yn golygu rhoi mwy o ffafriaeth i rai pobl; mae’n ymwneud â sicrhau bod pawb yn gydradd.



Mae manteision gweithio gyda ni yn cynnwys




Cyfeillgar i deuluoedd




Oriau gweithio hyblyg




Disgowntiau i drydydd partïon




Gwyliau blynyddol rhagorol



Ein Cyfleoedd



Y gwasanaeth mwyaf effeithiol yw un a all helpu unrhyw un, beth bynnag fo’i oedran, ei ryw, ei ethnigrwydd, lefel ei allu, ei gyfeiriadedd rhywiol, ei hunaniaeth rhywedd, ei ffydd, ei berthynas neu ei statws o ran bod yn rhiant. Po fwyaf amrywiol yw ein staff a’n diffoddwyr tân, hawsaf yw hi i ni gysylltu â’r holl bobl yr ydym yn eu gwasanaethu a deall eu hanghenion.

Cofrestrwch eich diddordeb
Os hoffech gofrestru eich diddordeb ar gyfer ein proses recriwtio nesaf, archebwch le ar gyfer un o'r digwyddiadau isod, i gael blas o'r hyn y mae rôl diffoddwr tân yn ei olygu. Mae'n golygu cymaint mwy na dim ond diffodd tanau. 

Cyfleoedd eraill
Cliciwch yma i weld ym mha ffyrdd eraill y mae’r Gwasanaeth Tân yn cyfrannu at ddiogelwch ein cymuned.




Yr Hyn y Gellir ei Ddisgwyl



Nod ein Diwrnod Blasu 3 awr yw i chi ddysgu am y rolau amrywiol a’r gofynion mynediad o fewn y gwasanaeth tân, a’r rôl ehangach y mae’r gwasanaeth tân yn ei chwarae yn y gymuned, gan gynnwys:

  • rôl diffoddwr tân modern
  • ceisio ar y cit diffodd tân a'r offer
  • agweddau amrywiol ar y broses recriwtio
  • pwysigrwydd ffitrwydd a chynnal ffitrwydd
  • y gwahanol fathau o offer a PPE
  • llwybrau gyrfa a mapiau rôl