Recriwtio Diffoddwyr Tân Llawn amser



Barod am y sialens?



Mae gweithio i’r gwasanaeth tân ac achub yn rôl sy’n cael ei pharchu yn y gymuned. Rydym yn dibynnu ar dîm o bobl gyda chyfuniad o sgiliau a phrofiad, i ddarparu gwasanaeth rheng flaen effeithiol ac i wneud ein hardal yn fwy diogel rhag tân.



Er mwyn cael eich ystyried, bydd angen i chi:

  • dangos eich bod yn rhannu ein gwerthoedd craidd
  • bod yn barod i ymrwymo i lefel yr hyfforddiant a'r ffitrwydd sy'n ofynnol i fodloni gofynion heriol y rôl.

Mae youtube.com wedi'i rwystro oherwydd eich dewisiadau cwci cyfredol, gallwch newid y rheini trwy glicio ar y botwm cwci yn y gornel dde isaf ar unrhyw dudalen.

Mae youtube.com wedi'i rwystro oherwydd eich dewisiadau cwci cyfredol, gallwch newid y rheini trwy glicio ar y botwm cwci yn y gornel dde isaf ar unrhyw dudalen.



Y broses ddethol



Mae'r broses ddethol yn sicrhau ein bod yn recriwtio'r bobl iawn sydd â'r sgiliau a'r agweddau cywir. Mae hefyd yn asesu eich ffitrwydd, eich galluoedd corfforol a meddyliol, eich rhinweddau personol a'ch gwytnwch.



Mae'r broses yn cynnwys:

  • Profion ffitrwydd
  • Profion corfforol sy'n gysylltiedig â rôl
  • Cyfweliad
  • Meddygol

Os byddwch chi'n pasio cam olaf y broses ddethol, byddwch chi'n cael cynnig lle ar ein rhaglen hyfforddi diffoddwyr tân amser llawn.

Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol o ddiffodd tân arnoch chi ddim ond angerdd i helpu'ch cymuned.



Nid oes cyfleoedd Diffoddwyr Tân Llawn Amser ar gael ar hyn o bryd, ond cadwch olwg ar y dudalen hon yn rheolaidd am gyfleoedd recriwtio os gwelwch yn dda



Mae’r cymunedau yng Nghymru yn gwerthfawrogi’r gwasanaethau rydym yn ei gynnig ac mae angen iddynt deimlo’n hyderus yn y timau medrus sydd gennym i leihau risg ac ymdrin â sefyllfaoedd brys.