Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd
Mae Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn gyflogwr hyderus ag anableddau.
Ar hyn o bryd rydym yn recriwtio ar gyfer y rolau canlynol. Am fwy o wybodaeth ac i wneud cais, cliciwch ar y teitl.
Ar hyn o bryd mae gennym swyddi gwag ar-alwad ar ddiffoddwyr tân yn y Gorsafoedd Tân:
Sir Gâr
Ceredigion
Castell-nedd Port Talbot
Sir Benfro
Powys
Abertawe
Am mwy o wybodaeth ewch i'n tudalennau Recriwtio Diffoddwyr Tan ar Alwad.
Llenwch ein ffurflen Mynegi Diddordeb nawr.
Gellir cynnig yr opsiwn o "ddychwelyd i gyflogaeth" pan fydd gweithiwr wedi terfynu ei Gontract Ar Alwad â GTACGC, a hynny'n wirfoddol, ac yn gofyn am ddychwelyd i gyflogaeth o fewn pedair blynedd i'r diwrnod dyletswydd diwethaf sydd wedi'i gofnodi ar ei gyfer. Mae'r cyfleuster hwn ar gael i'r cyflogeion hynny sy'n dymuno dychwelyd i rôl diffoddwr tân, a'r cyflogeion hynny yn unig. Er bod personél a fu yn Rheolwyr Criw neu Reolwyr Gwylfa yn flaenorol yn gymwys i wneud cais, dim ond i rôl diffoddwr tân y gallant ddychwelyd.
Llenwch ein ffurflen Dychweled i'r Gwasanaeth ne cysylltwch â'r tîm Recriwtio am ragor o wybodaeth, a hynny trwy ffonio 01267 226832 neu anfon neges e-bost i humanresources@mawwfire.gov.uk
Adran Cyfarpar Gweithredol a Sicrwydd, Pencadlys y Gwasanaeth, Caerfyrddin
Gradd 6: £27,852-£29,439
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn chwilio am geisiadau gan unigolion ar gyfer rôl Technegydd Cymorth Gweithredol parhaol o fewn yr adran Cyfarpar Gweithredol a Sicrwydd ym Mhencadlys y Gwasanaeth, Caerfyrddin.
Y Rôl
Bydd deiliad y swydd yn archwilio, yn gwasanaethu ac yn cynnal a chadw hydrantau tân y Gwasanaeth yn effeithlon ac yn ddiogel fel y cyfarwyddir gan y Swyddog Dŵr. Cynnal archwiliadau o hydrantau, yn ddiogel ac yn unol â Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 a'r Ddeddf Rheoli Traffig.
Mae hon yn swydd lawn amser 37 awr yr wythnos gydag oriau hyblyg yn unol â chynllun oriau hyblyg y Gwasanaeth.
Ymholiadau
I gael rhagor o wybodaeth am y swydd hon, cysylltwch â'r Rheolwr Cymorth Gweithredol a'r Swyddog Dŵr, Dylan Walters: d.walters@mawwfire.gov.uk.
Gwneud cais am y rôl
I wneud cais am y rôl, llenwch y ffurflen gais sydd ar gael isod, gan gyfeirio at y meini prawf a nodir yn y Swydd-ddisgrifiad a Manyleb y Person.
Dylid dychwelyd ffurflenni wedi'u llenwi trwy e-bost i: humanresources@mawwfire.gov.uk.
Amgaewch gopïau o'ch cymwysterau gyda'r cais.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc, a disgwylir i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun gwiriad DBS a geirdaon boddhaol.
Noder y croesewir ceisiadau yn Gymraeg, ac na fydd unrhyw geisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Dyddiad Cau
8 Mehefin 2023
Pencadlys y Gwasanaeth, Caerfyrddin
Gradd 5 - £25,409-£26,845
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn gwahodd ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â chymwysterau addas i ddarparu amrywiaeth eang o gymorth gweinyddol yn yr Adran Adnoddau Dynol, wedi'i lleoli ym Mhencadlys y Gwasanaeth, Caerfyrddin.
Y Rôl
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn hyderus wrth ddelio ag amrywiaeth o weithgareddau adnodda dynol, a bydd yn amlygu ymagwedd ragweithiol at gynnal safonau uchel o ran cyflenwi gwasanaethau. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am yr holl weithgareddau gweinyddol sy'n ymwneud â recriwtio Ymladdwyr Tân Ar Alwad.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon.
Mae hon yn swydd lawn-amser, barhaol am 37 awr yr wythnos (dydd Llun i ddydd Gwener), ac mae iddi oriau hyblyg yn unol â chynllun amser hyblyg y Gwasanaeth. Efallai y bydd angen teithio ledled ardal y Gwasanaeth yn rhan o'r rôl.
Ymholiadau
I gael rhagor o wybodaeth am y swydd, cysylltwch â'r Rheolwr Adnoddau Dynol, Karen Fairhurst yn k.fairhurst@mawwfire.gov.uk.
Gwneud cais am y rôl
I wneud cais am y rôl, llenwch y ffurflen gais sydd ar gael isod, gan gyfeirio at y meini prawf a nodir yn y Swydd-ddisgrifiad a Manyleb y Person.
Dylid dychwelyd ffurflenni wedi'u llenwi trwy e-bost i: humanresources@mawwfire.gov.uk.
Amgaewch gopïau o'ch cymwysterau gyda'r cais.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc, a disgwylir i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun gwiriad DBS a geirdaon boddhaol.
Noder y croesewir ceisiadau yn Gymraeg, ac na fydd unrhyw geisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Dyddiad Cau
5 Mehefin 2023
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn chwilio am Weinyddwr Rhwydwaith TGCh â chymwysterau a phrofiad addas i ymuno â'i Dîm Systemau Busnes TGCh ym Mhencadlys y Gwasanaeth, Caerfyrddin. Mae hon yn swydd lawn-amser newydd am 37 awr yr wythnos o ddydd Llun i ddydd Gwener
Rydym yn chwilio am rywun sydd ag o leiaf tair blynedd o brofiad ymarferol yn darparu datrysiadau rhwydweithio ledled sefydliadau aml-safle. Bydd gennych ddealltwriaeth wych o ddiogelwch rhwydweithiau a fydd yn sail i'ch holl waith a'ch holl argymhellion. Byddwch yn gyfrifol am uwchraddio, cynnal a chadw, a gwneud argymhellion cadarn ar gyfer pensaernïaeth y Gwasanaeth cyfan – o rwydweithiau ardal leol lleol, i rwydweithiau ardal eang preifat, rhwydweithiau preifat rhithwir rhyngsefydliadol, a'r cysylltiadau â'r rhyngrwyd cyhoeddus.
Felly, mae cylch gwaith y rôl hon yn cynnwys switshis, llwybryddion, waliau tân, cydbwyswyr llwythi, pwyntiau mynediad, caledwedd cysylltiedig â SIP a VOIP a chyfarpar tebyg. Dylai fod gennych brofiad o sefydlu, ffurfweddu a datrys problemau mewn perthynas â phob agwedd ar TCP/IP a phrotocolau is – gan gynnwys DHCP, DNS, VLANs, protocolau llwybro, QoS, newid Haen 2 a Haen 3, VPNs, RADIUS a WiFi (SSIDs, WPA2 a WPA-Enterprise ac ati), rhwydweithio rhithwir yn Azure a Hyper-V a gwybodaeth wych am waliau tân – NAT, PAT, polisïau, rheolau rheoli lled band safle-i-safle yn ogystal â VPNs personol. Bydd angen i chi allu ffurfweddu prosesau rhwydweithio ar gyfer systemau ffôn VOIP a SIP, a meddu ar wybodaeth dda am gysylltedd rhwng safleoedd, yn ddelfrydol trwy ddarpariaeth PSBA Cymru.
Er ei bod yn ofynnol i chi feddu ar wybodaeth fanwl am gynhyrchion Cisco, mae ein rhwydwaith yn defnyddio ystod o ddyfeisiau gwneuthurwyr, felly dylech allu addasu eich set sgiliau ar gyfer nifer o gynhyrchion rhwydweithio gwahanol. Yn ogystal, disgwylir i chi feddu ar wybodaeth am ether-rwyd, ffibr, SFPs, socedi wal, panel patsh, ceblau wedi'u gwisgo'n dda a chreu rhwydweithiau cadarn.
Byddwch yn gweithio'n agos gyda'r Gweinyddwr Systemau i ddarparu systemau a rhwydwaith diogel sy'n cael eu cynnal a'u cadw a'u cofnodi'n dda yn barhaus. Byddwch yn wybodus o ran lle mae'r sgiliau'n gorgyffwrdd, ac yn ddigon cyfarwydd â systemau Windows Server i ddarparu cadernid a chymorth yn y maes hwnnw.
Bydd datrys problemau yn rhan allweddol o'r rôl hon, a dylai defnyddio dadansoddwyr pecynnau, deall maint fframiau, tablau llwybro, materion WiFi, SNMP ac MIBs i gyd fod yn ail natur.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn ymfalchïo yn ei ffordd arloesol o fynd ati i ddatrys problemau a defnyddio technoleg i wella'r modd y gall gweithwyr sicrhau canlyniadau. Mae gennym gyfuniad o dechnolegau blaengar a rhai hŷn ar waith ar hyn o bryd, ac rydym am ddefnyddio TGCh i gael gwared ar y systemau hŷn yn raddol, cyflwyno systemau newydd sy'n addas ar gyfer y gweithle modern, a symleiddio prosesau gweithio ag offer awtomataidd.
Mae TGCh yn gweld newid cyflym yn y Gwasanaeth ar hyn o bryd, a bydd ambell brosiect diddorol yn cael ei gyflwyno dros y blynyddoedd i ddod. Bydd rhai o'r prosiectau hyn yn arwain at newid cadarnhaol mawr yn y sefydliad, a bydd TGCh wrth wraidd hynny; felly, mae'r swydd hon yn gyfle arbennig i rywun sy'n angerddol ac yn frwd dros TGCh ac sy'n meddu ar ethos gwaith gwych.
Mae ardal Gwasanaeth Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cwmpasu 12,000 km o dir Cymru. Mae'n cynnwys 58 o orsafoedd, a hynny o Ynys Bŷr yn y De-orllewin i Lanfyllin yn y Gogledd-ddwyrain. Efallai y bydd angen teithio ymhell ac aros oddi cartref am gyfnodau yn ystod yr wythnos waith er mwyn cyflenwi gwasanaethau TGCh i'r ardaloedd hyn. Felly mae trwydded yrru lawn yn hanfodol, yn ogystal â'ch cerbyd eich hun (er bod ceir cronfa ar gael ar gyfer y rhan fwyaf o deithiau).
Byddwch yn cael eich gwobrwyo â rôl amrywiol a heriol, buddion gwych sy'n cynnwys y posibilrwydd o ddatblygu'n gyflym i frig y radd gyflog, lwfans gwyliau hael yn ogystal â gwyliau banc, cynllun pensiwn dymunol iawn, a chynllun disgownt cenedlaethol. Yn anad dim, byddwch yn gweithio i sefydliad uchel ei barch sy'n meddu ar ddyfarniad Platinwm Buddsoddwyr mewn Pobl, tîm gwych – yn yr adran TGCh a'r sefydliad ehangach – a bydd gennych y pleser o wybod y bydd y gwaith y byddwch yn ei wneud yn achub bywydau ac yn helpu cymunedau ledled Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth am y swydd hon, cysylltwch â'r Pennaeth TGCh, Dafydd Lawrence ar 01267 226855 neu drwy e-bost d.lawrence@mawwfire.gov.uk.
Gwneud cais am y rôl
I wneud cais am y rôl, ewch i https://www.tancgc.gov.uk/cym/ymunwch-%C3%A2-ni/swyddi-gwag-cyfredol/.
Llenwch y ffurflen gais sydd ar gael trwy'r ddolen, gan gyfeirio at y meini prawf a nodir yn y Swydd-ddisgrifiad a Manyleb y Person.
Dylid dychwelyd ffurflenni wedi'u llenwi trwy e-bost i: AdnoddauDynol@tancgc.gov.uk
Noder y croesewir ceisiadau yn Gymraeg, ac na fydd unrhyw geisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Dyddiad Cau
Penagored
Ffurflen Gais
Swydd-ddisgrifiad
Manyleb Y Person
Canllawiau Gwneud Cais