Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
Pencadlys Gwasanaeth
Heol Llwyn Pisgwydd,
Caerfyrddin
Sir Gâr
SA31 1SP
Ewch i'n Ffurflen Cyswllt
Ffôniwch ar 0370 6060699
Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant wrth wraidd yr hyn a wnawn yn y Gwasanaeth, ac maent yn werthoedd sy’n greiddiol i brosesau, arferion a diwylliant ein sefydliad. Ein nod yw sicrhau ein bod yn rhoi’r un gwerth ar bob un o’n gweithwyr, a’u bod yn cael yr un parch, a bod ein sefydliad yn cynrychioli'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.
Rydym wedi ymrwymo yn y Gwasanaeth i nodi, deall a dileu pob rhwystr sy'n atal mynediad at wasanaethau, gwybodaeth a chyflogaeth. Byddwn yn mynd ati mewn modd gweithredol i gefnogi aelodau o'n cymunedau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol i oresgyn anfantais, a hynny trwy hyrwyddo cyfleoedd cyfartal ac amrywiaeth yn ein sefydliad.
Ar hyn o bryd, mae gan y Gwasanaeth nifer bach o rwydweithiau/fforymau cyflogeion ar waith, ac mae eu prif swyddogaethau fel a ganlyn:
Er mai dim ond yn gynnar yn 2017 y cafodd y Rhwydwaith Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thraws/Rhwydwaith Cynghreiriaid Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thraws ei ffurfio, mae gan y Grŵp eisoes syniadau am feysydd polisi a darparu gwasanaethau yr hoffai ddylanwadu arnynt. Mae'r Grŵp yn cwrdd yn chwarterol, ac mae'n agored i gyflogeion sy'n eu hystyried eu hunain yn Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thraws, yn ogystal â chynghreiriaid.
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn diogelu pobl, yn gyfreithiol, rhag gwahaniaethu yn y gweithle ac yng nghymdeithas yn gyffredinol.
Fe wnaeth y Ddeddf unigol hon ddisodli’r amrywiol gyfreithiau gwrth-wahaniaethu blaenorol, gan wneud y gyfraith yn haws ei deall a chryfhau’r amddiffyniad mewn rhai sefyllfaoedd. Mae’n traethu’r gwahanol ffyrdd y mae’n anghyfreithlon i drin rhywun.
Os am wybodaeth bellach am y Ddeddf ewch i'r dudalen Saesneg Equality Act 2010 Guidance ar safle we'r llywodraeth.
Mae Asesiadau o'r Effaith ar Gydraddoldeb yn ein helpu i wella'r gwasanaethau rydym yn eu darparu yn ein cymunedau, yn ogystal â bywydau gwaith ein staff. Maent yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau, mentrau, penderfyniadau a gwasanaethau, gan ein helpu i ddileu unrhyw effeithiau andwyol y gallai'r polisïau, mentrau, penderfyniadau a gwasanaethau hynny eu cael er ein cyflogeion neu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu, neu i liniaru'r effeithiau andwyol hyn.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os oes angen unrhyw wybodaeth arnoch ynglŷn ag Asesiadau Effaith Cydraddoldeb y gwasanaeth, cysylltwch â ni drwy:
Ebost adnoddaudynol@tancgc.gov.uk
Ffôn 01267 226839
Lawrlwythwch ein Adroddiad Bwlch Cyflog Rhywiol 2022 (PDF, 628Kb)
Lawrlwythwch ein Adroddiad Bwlch Cyflog Rhywiol 2021 (PDF, 1.4Mb)
Lawrlwythwch ein Adroddiad Bwlch Cyflog Rhywiol 2020 (PDF, 700Kb)
Lawrlwythwch ein Adroddiad Bwlch Cyflog Rhywiol 2018 (PDF, 650Kb)
Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020 - 2024
Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020 - 2024
Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020 - 2024 - Llyfryn Hawdd ei Ddeall
Lawrlwythwch fersiwn Llyfryn Hawdd ei Ddeall o'n Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020 - 2024
Pencadlys Gwasanaeth
Heol Llwyn Pisgwydd,
Caerfyrddin
Sir Gâr
SA31 1SP
Ewch i'n Ffurflen Cyswllt
Ffôniwch ar 0370 6060699