Canllawiau Gwneud Cais



Beth yw oriau gwaith Diffoddwr Tân Amser Cyflawn?



Nawr eich bod wedi penderfynu gwneud cais am swydd gyda ni, mae’r adran hon yn anelu at roi cymaint o wybodaeth ag sy’n bosib am yr hyn gallwch ei ddisgwyl oddi wrth ein proses recriwtio. Fodd bynnag, oherwydd yr amrywiaeth eang o swyddi a gynigwn, efallai gwelwch fod hyn yn amrywio o bryd i’w gilydd. Os na fedrwch ddod o hyd i’r atebion yr ydych chi eisiau, cysylltwch â ni ar y rhif a roddwyd ar waelod y dudalen yma, os gwelwch yn dda.



Rydym ni eisiau sicrhau fod pob cam o’n proses recriwtio yn deg a’ch bod yn cael eich trin yn briodol. Mae gennym ddyletswydd i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn unrhyw un ac rydym yn gobeithio, hyd yn oed os na chewch eich penodi, y byddwch yn teimlo i chi gael eich trin yn deg.

Wrth asesu eich cais, ni fyddwn yn ystyried unrhyw geisiadau blaenorol na gwybodaeth bersonol amdanoch. Oherwydd ein bod yn selio’r asesiad hwn ar eich ffurflen gais yn unig, mae’n bwysig iawn eich bod yn ei chwblhau mor gyflawn ag sy’n bosib, ac mae’r adrannau sy’n dilyn yn anelu at eich helpu i wneud hyn. Os na fedrwch gwblhau ffurflen gais ar y ffurf safonol, oherwydd anabledd neu ryw reswm arall, cysylltwch â ni am gyngor, os gwelwch yn dda.

Dylech chi ddod o hyd i’r canlynol yn y pecyn:

Ffurflen Gais

Swydd Ddisgrifiad: Mae’n amlinellu prif ddyletswyddau a gofynion y swydd.

Manyleb Person: Mae’n nodi’r sgiliau, profiad, cymwysterau a’r doniau yr ydym yn chwilio amdanynt ar gyfer y swydd yr ydych yn gwneud cais. Os credwch eich bod yn diwallu’r holl ofynion hanfodol, mae’n hollbwysig eich bod yn medru esbonio a dangos sut yr ydych yn gwneud hynny pan fyddwch yn cwblhau eich ffurflen gais.

Ffurflen Polisi Cyflogaeth Cyfleoedd Cyfartal: Rydym yn gofyn i’r holl ymgeiswyr ein helpu i fonitro tegwch ein proses recriwtio trwy gwblhau’r ffurflen hon. Gallwch ei chwblhau yn ei chyfanrwydd neu ran ohoni a’i dychwelyd gyda’ch ffurflen gais. Unwaith fyddwn wedi ei derbyn, byddwn yn ei gwahanu oddi wrth eich cais fel nad yw’n rhan o’r broses asesu. Caiff yr wybodaeth yma’i drin yn gyfrinachol. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon ynglŷn â hyn cysylltwch â’n Tîm Recriwtio, ar y rhif ffôn a roddir ar waelod y dudalen yma, os gwelwch yn dda.



Cwblhau’r Ffurflen Gais



Mae’r wybodaeth a ddarperir ar y ffurflen gais yn wybodaeth allweddol, a fydd yn cael ei ddefnyddio yn y broses o greu rhestr fer. Felly, mae’n bwysig eich bod yn dilyn y canllawiau isod wrth gwblhau’r ffurflen gais. Bydd hyn yn sicrhau bod yr holl wybodaeth berthnasol ar gael i wneud penderfyniad p’un ai y dylid eich gosod ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad ai peidio. Bydd y broses o greu rhestr fer yn golygu asesu’r manylion a ddarparwyd ar y ffurflen gais yn erbyn y meini prawf a amlinellwyd yn y Fanyleb Person a ddarparwyd.

Derbynnir ffurflenni cais ar ffurfiau eraill os yw’r ymgeisydd yn cael anhawster cwblhau’r ffurflen safonol o ganlyniad i anabledd.



Mae’n bosib bod yr adran hon wedi’i chwblhau yn barod, ond sicrhewch fod yr holl fanylion yn gyflawn ac yn gywir. Os nad dyma’r achos, cyfeiriwch at hysbyseb y swydd a chwblhewch yr adran hon, os gwelwch yn dda.

Rhowch eich manylion personol yn llawn ac yn glir, fel y gallwn gysylltu â chi am eich cais. Byddwn yn ysgrifennu atoch fel arfer, ond mae’n bosib y byddwn yn cysylltu â chi dros y ffôn neu ar e-bost. Wrth roi rhifau ffôn nodwch y Côd lleol, lle bod hynny’n briodol.

Mae’r adran hon yn ymwneud â manylion eich swydd bresennol. Os nad oes gennych swydd ar hyn o bryd, gadewch yr adran hon yn wag, os gwelwch yn dda.

Rhowch fanylion am unrhyw gymwysterau perthnasol sydd gennych a ble y cawsoch chi nhw. Dylent gynnwys gradd a lefel y cymhwyster.

Os nad oes gennych unrhyw gymwysterau rhowch lein trwy’r blwch, os gwelwch yn dda.

Os cewch eich gosod ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad, bydd angen i chi ddod â’ch tystysgrifau cymhwyster gwreiddiol gyda chi. Byddant yn cael eu gwirio ac, os fydd angen, byddwn yn cysylltu â’r corff dyfarnu i wirio’r cymhwyster.

Mae hon yn adran bwysig iawn, gan ei bod yn eich galluogi i ddatgan yn union sut credwch bydd eich sgiliau, eich profiad a’ch hyfforddiant yn eich galluogi i ddiwallu gofynion y swydd.

Dylech gysylltu eich datganiad ategol i’r Fanyleb Person, a nodwch yn glir pa brofiad, sgiliau neu hyfforddiant sydd gennych ar gyfer pob un o’r gofynion. Ceisiwch ddefnyddio enghreifftiau o waith neu hyfforddiant a gyflawnwyd gennych. Nid oes yn rhaid ei fod yn ymwneud â’r gwaith, os credwch ei fod yn berthnasol.

Dywedwch wrthym am unrhyw brofiadau, sgiliau neu hyfforddiant y credwch sy’n berthnasol i’r swydd. Wrth greu rhestr fer, ni allwn wneud rhagdybiaethau, felly os nad ydych yn ei gwneud hi’n glir eich bod yn diwallu’r meini prawf a amlinellwyd yn y Fanyleb Person, ni fyddwn yn medru mynd â’ch cais ymhellach.

Dywedwch wrthym os ydych yn perthyn i Gynghorydd neu berson sy’n gweithio i Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, oherwydd mae’n rhaid sicrhau nad yw penderfyniadau ynglŷn â’r rhestr fer a’r cyfweliadau’n cael eu gwneud gan unrhyw un sy’n perthyn i’r ymgeisydd, cyn belled ag sy’n bosib.

Gallech anghymwyso eich cais os nad ydych yn datgelu, neu os ceisiwch ddylanwadu ar y broses trwy, berthynas sydd gennych gydag un o’r uchod.

Y cyfan sydd angen i chi nodi yw’r nifer o ddyddiau ac achlysuron o salwch yn ystod y 12 mis diwethaf. Nid oes yn rhaid i chi ddatgelu’r rhesymau am eich salwch. Fodd bynnag, os cewch eich penodi i’r swydd, bydd gofyn i chi gwblhau holiadur meddygol cyn cyflogi, ac efallai bydd gofyn i chi ymweld â’n tîm Iechyd Galwedigaethol am asesiad meddygol, cyn y gellir cynnig swydd i chi. Bydd yr wybodaeth a roddwch yn gwbl gyfrinachol, a’r tîm Iechyd Galwedigaethol yn unig fydd yn cael mynediad i’r wybodaeth.

Mae rhai o’n swyddi’n golygu bydd angen gyrru a/neu’r gallu i deithio. Ticiwch y blwch priodol os ydych yn meddu ar drwydded yrru gyfredol. Gweler y Fanyleb Person i ganfod gofynion y swydd yr ydych yn gwneud cais amdani.

Mae’n RHAID i chi ddatgelu unrhyw euogfarnau blaenorol, gorchmynion rhwymo i gadw’r heddwch, neu rybuddion, boed yn gyfredol neu “wedi darfod”. Pe digwydd i chi gael cynnig y swydd dros dro, efallai bydd gofyn am ddatgeliad o gofnodion troseddol oddi wrth y Biwro Cofnodion Troseddol cyn i chi gael eich penodi, gan ddibynnu ar natur y swydd a geisir. Os cewch eich cyflogi, gallai methu datgelu’r rhain yn dilyn archwiliadau arwain at gamau disgyblu neu ddiswyddiad.

Nid yw datgelu euogfarn neu rybudd yn golygu o anghenraid na fyddwch yn cael eich penodi, bydd ymgeiswyr gydag euogfarn neu rybudd yn cael eu trin yn deg. Ni fydd manylion a ddarparwyd yn yr adran hon yn cael eu hystyried wrth greu’r rhestr fer, a bydd y penderfyniad am y penodiad yn cael ei wneud yng ngoleuni’r holl wybodaeth sydd ar gael, gan ystyried rhinweddau’r ymgeiswyr. Bydd yr holl wybodaeth a ddarparwyd yn cael ei drin yn gwbl gyfrinachol, a’r unig bobl fydd yn cael mynediad i’r wybodaeth fydd y rhai sy’n rhan o’r broses recriwtio.

Erbyn i chi arwyddo eich ffurflen gais, bydd y gwaith caled ar ben. Darllenwch y datganiad yn ofalus, os gwelwch yn dda, ac arwyddwch a rhowch ddyddiad lle gofynnir i chi wneud. Os ydych yn gwneud cais ar lein, ni fydd modd i chi wneud hyn. O dan yr amgylchiadau yma, byddwn yn gofyn i chi arwyddo a rhoi dyddiad ar gopi, os cewch eich dewis ar gyfer cyfweliad.



Beth sy’n digwydd wedi i chi anfon eich cais atom?



Unwaith fyddwn ni wedi derbyn eich cais, byddwn yn gwahanu’r ffurflen monitro cyfleoedd cyfartal ac ni fydd yn rhan o’r broses ddewis, a byddwn yn anfon y ffurflen gais yn unig i’r adran fydd yn creu’r rhestr fer. Byddwn yn anfon cydnabyddiaeth ein bod wedi derbyn y ffurflen gais at bob ymgeisydd.

Yna, bydd eich cais yn cael ei asesu yn erbyn y meini prawf (yn y fanyleb person), a bydd y panel rhestr fer yn penderfynu os cewch eich gosod ar y rhestr fer.

Os na chewch eich dewis ar gyfer cyfweliad, byddwch yn cael eich hysbysu’n ysgrifenedig. O fewn chwe wythnos i’r dyddiad cau, fel arfer. Os na fyddwch wedi clywed oddi wrthym erbyn hynny, cysylltwch â ni, os gwelwch yn dda. 

Os cewch eich dewis ar gyfer cyfweliad, byddwch yn derbyn llythyr gennym o fewn 2-3 wythnos i’r dyddiad cau, fel arfer, yn eich hysbysu o ddyddiad, amser a lleoliad y cyfweliad. Hefyd, bydd y llythyr yn cynnwys manylion am unrhyw brawf asesu fydd yn cael ei gynnal, a bydd yn rhestru’r dogfennau sydd angen i chi ddod gyda chi, os yn gymwys i’r rôl.

Bydd gofyn i bawb sy’n mynychu cyfweliad ddod â’r dogfennau gwreiddiol canlynol gyda nhw:

  • Pasbort / Cerdyn Adnabod Ewropeaidd neu Dystysgrif Geni, a phrawf o Yswiriant Cenedlaethol, P45, P60 neu lythyr y llywodraeth.
  • Os nad ydych yn ddinesydd Prydeinig neu’n ddaliwr Pasbort UE neu AEE, mae’n rhaid i chi roi tystiolaeth o’ch cymhwyster i weithio yn y DU. Bydd ffurfiau derbyniol o hunaniaeth wedi eu manylu yn eich llythyr cyfweliad.
  • Tystysgrifau o gymwysterau perthnasol neu brawf eich bod wedi cofrestru gyda chorff proffesiynol, os oes angen.
  • Mae’n bosib bydd gofyn am ddogfennau eraill, gan ddibynnu ar ofynion y swydd e.e. trwydded yrru.

Bydd y dogfennau yma’n cael ei llungopïo a’u cadw ynghyd â’ch ffurflen gais, am gyfnod o 12 mis o ddyddiad y cyfweliad. Fodd bynnag, os fyddwch yn llwyddiannus, bydd y dogfennau yma’n cael eu cadw’n gyfrinachol ar eich ffeil bersonol.



Wedi’r Cyfweliad



Rydym yn hysbysu pob ymgeisydd sy’n mynychu cyfweliad o’r canlyniad, naill ai dros y ffôn neu trwy lythyr. Os fyddwch yn llwyddiannus, bydd angen i ni gwblhau’r holl wiriadau cyn cyflogi cyn cynnig y swydd, felly efallai bydd ychydig o oedi. Unwaith bydd y rhain yn gyflawn, byddwn yn cytuno ar ddyddiad dechrau gyda chi ac yn rhoi mwy o wybodaeth i chi’n ymwneud â’ch cyflogaeth, yn cynnwys cytundeb, canllaw'r gweithiwr, ayb.

Rydym yn gweithio bydd y canllawiau yma’n eich helpu yn ystod y broses recriwtio ac y byddwch yn llwyddiannus yn eich cais am swydd gyda’r Gwasanaeth Tân ac Achub.

Pob Lwc!



Am ffurflen gais ac unrhyw ymholiad arall yn ymwneud â recriwtio: 

01792 705144

Dychwelwch eich ffurflen gais, wedi’i chwblhau, a’r ffurflen polisi cyflogaeth cyfleoedd cyfartal i’r: 

Adran Adnoddau Dynol
Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
Pencadlys y Gwasanaeth Tân
Heol Llwyn Pisgwydd
Caerfyrddin
SA31 1SP