Polisi Hygyrchedd



Datganiad hygyrchedd ar gyfer gwefan Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan ac felly rydym wedi ymgorffori technoleg gynorthwyol (ReachDesk) i wella ei hygyrchedd.

Mae hyn yn golygu y dylech allu gwneud y canlynol:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau.
  • chwyddo mewn heb i'r testun gael ei golli oddi ar y sgrin.
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig.
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais.
  • defnyddio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin.

Er mwyn gallu ei ddeall, rydym hefyd wedi gofalu bod testun y wefan mor syml â phosibl.

Pa mor hygyrch yw'r wefan hon?

Gwyddom nad yw rhai rhannau o'r wefan yn gwbl hygyrch:

  • mae yna rywfaint o gyferbynnedd gwael yn bodoli rhwng lliwiau'r cefndir a'r blaendir
  • nid yw rhai tudalennau ac atodiadau wedi'u hysgrifennu'n glir
  • nid yw elfennau rhai penawdau yn gyson
  • nid yw teitlau rhai tudalennau yn unigryw
  • nid yw labeli rhai ffurflenni yn unigryw
  • nid oes gan rai delweddau destun amgen priodol
  • nid yw peth testun cyswllt yn disgrifio diben y ddolen
  • nid yw'r mwyafrif o ddogfennau PDF hŷn yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllenydd sgrin
  • nid oes gan ffrydiau fideo na chofnodion cyfarfodydd, megis fideos ein Hawdurdod Tân, gapsiynau

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os oes arnoch angen gwybodaeth o'r wefan hon mewn fformat gwahanol, er enghraifft PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddeall, recordiad sain neu Braille, anfonwch neges e-bost atom: mail@mawwfire.gov.uk.

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi cyn pen 10 diwrnod gwaith.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd o ran y wefan hon

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon, neu os ydych yn credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, anfonwch neges e-bost atom: mail@mawwfire.gov.uk

Mae'n bosibl y byddwch yn dod o hyd i ambell PDF nad yw wedi'i gywiro eto. Os felly, rhowch wybod i ni fel y gallwn gymryd camau.

Gweithdrefn orfodi

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych yn fodlon ar y modd yr ydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).

Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni'n bersonol

Rydym yn darparu gwasanaeth cyfnewid testun ar gyfer pobl F/fyddar, pobl trwm eu clyw, neu bobl â nam ar y lleferydd.

Mae gan ein swyddfeydd ddolenni anwytho clywedol, neu os hoffech gysylltu â ni cyn eich ymweliad, gallwn drefnu cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL).

Sut i gysylltu â ni

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfedd

Mae'r wefan yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1, a hynny oherwydd y diffyg cydymffurfedd a restrir isod.

Cynnwys nad yw'n hygyrch

Diffyg cydymffurfedd â'r rheoliadau hygyrchedd

  • Mae yna gynnwys heb fod yn destun ar draws y wefan a allai fod â thestun gwag, testun ar goll neu destun amgen anghywir. Mae yna hefyd achosion lle gall delweddau fod wedi eu nodi yn rhai addurniadol pan nad ydynt, neu heb eu nodi yn rhai addurniadol pan fyddai gwneud hynny yn fwy synhwyrol. Mae'r materion hyn yn methu WCAG 1.1.1 Cynnwys heb fod yn destun.
  • Mae yna fideos ar ein gwefan lle mae'r capsiynau'n awtomataidd ac nad ydynt yn hollol gywir ym mhob man. Mae hyn yn methu WCAG 1.2.2 Capsiynau (wedi'u recordio ymlaen llaw).
  • Mae yna fideos ar ein gwefan lle nad yw'r deunyddiau gweledol sydd ynddynt yn cynnwys sain ddisgrifiad. Mae hyn yn methu WCAG 1.2.5 Sain Ddisgrifiad (wedi'i recordio ymlaen llaw).
  • Mae yna achosion ar draws y wefan lle mae yna strwythurau afresymegol i'r penawdau a thestun sy'n ymddangos yn weledol ei fod yn bennawd, ac yn gweithredu fel pennawd, ond nad yw wedi'i godio felly. Mae yna hefyd ffurflenni ar y wefan lle nad yw botymau radio yn gysylltiedig ar ffurf rhaglen â'r cwestiwn cyffredinol, dim ond wedi'u labelu yn unol â'r label opsiwn unigol ei hun. Nodwyd hefyd bod yna ddogfennau PDF nad ydynt wedi'u tagio i gyflwyno ar ffurf rhaglen yr un wybodaeth strwythurol ag a ddarperir yn weledol. Mae'r materion hyn yn methu WCAG 2.1 A 1.3.1 Gwybodaeth a pherthnasoedd.
  • Defnyddir ffurflenni ar y wefan sy'n casglu gwybodaeth bersonol. Ar gyfer mewnbynnau'r ffurflenni hyn, nid yw'r diben a'r math penodol o ddata gofynnol ar gael ar ffurf rhaglen yn y cod. At hynny, ni ddaethpwyd o hyd i unrhyw briodoleddau awtolenwi. Mae'r rhain yn methu WCAG 1.3.5 Nodi diben y mewnbwn.
  • Mae yna achosion lle defnyddir lliwiau yn unig i wahaniaethu rhwng dolenni ar draws y wefan. Yn yr un modd, mae yna ddolenni sy'n bodoli nad oes ganddynt, o bosibl, ddigon o gyferbynnedd â'r testun safonol i allu gwahaniaethu rhyngddynt. Mae yna hefyd wybodaeth graffigol ar y wefan sy'n dibynnu ar ddehongli lliwiau yn unig i ddeall yr wybodaeth sy'n cael ei chyflwyno. Mae'r rhain yn methu WCAG 2.1 1.4.1 Defnyddio Lliwiau a WCAG 2.1 1.4.3 Cyferbynnedd (Isafswm).
  • Mae yna ddelweddau ar draws y wefan sy'n cynnwys testun, ac mewn rhai achosion, yn aml nid yw'r lliw cefndir yn gyson, sy'n golygu y gall fod rhannau o'r testun nad oes ganddynt ddigon o gyferbynnedd â'r cefndir. Mewn rhai achosion, nid oes gan sêr (asterisks), pan fyddant yn cael eu defnyddio i nodi meysydd gorfodol ar ffurflen, ddigon o gyferbynnedd o ran lliw â lliw'r cefndir. Mae'r rhain yn methu WCAG 2.1 1.4.3 Cyferbynnedd (Isafswm).
  • Pan fydd y wefan yn cael ei chwyddo, gall fod yna achosion lle bydd rhai o gydrannau'r dudalen yn golygu na ellir cyrchu cydrannau eraill. Mae hyn yn methu WCAG 1.4.4 Newid maint y testun.
  • Mae yna rai delweddau o destun yn cael eu defnyddio ar draws y wefan, fodd bynnag, ni all defnyddwyr eu newid i ddiwallu eu hanghenion, er enghraifft cynyddu maint y ffont. Hefyd, mae yna achosion lle cyflwynir data ystadegol yn weledol, ond y testun yn bennaf yw'r wybodaeth sy'n cael ei chyfleu. Mae'r rhain yn methu WCAG 1.4.5 Delweddau o destun.
  • Mae yna achosion, pan fydd porwr yn cael ei chwyddo i 400%, lle mae'r testun yn gorgyffwrdd a all ei gwneud yn anodd ei ddarllen, neu mae elfennau o'r dudalen neu'r testun yn cael eu torri i ffwrdd yn rhannol. Mae hyn yn methu WCAG 1.4.10 Ail-lifo.
  • Mae yna broblemau'n ymwneud â lliw border y meysydd mewnbynnu testun am nad oes iddynt ddigon o gyferbynnedd â'r cefndir, a all ei gwneud yn anodd i rai defnyddwyr ddeall ble i fewnbynnu gwybodaeth. Mae yna hefyd achosion lle nad oes gan gynnwys heb fod yn destun ddigon o gyferbynnedd lliw â'r cefndir. Mae'r rhain yn methu WCAG 1.4.11. Cyferbynnedd heb fod yn destun.
  • Ar draws y wefan, gall newid maint y testun achosi i destun gael ei wthio oddi ar ei gefndir arferol weithiau, gan arwain at gyferbynnedd gwael o ran lliw a gwneud i'r testun fod yn anos ei ddarllen. Yn yr un modd, gall fod adegau pan fydd newid maint y testun yn achosi i'r testun gael ei wthio i lawr ymhellach y tu ôl i gynnwys arall sy'n golygu na ellid ei ddarllen mwyach. Mae'r rhain yn methu WCAG 1.4.12 Bylchau yn y Testun.
  • Mae yna achosion lle nad oes modd cael gwared ar gynnwys a ddatgelir trwy hofran y cyrchwr drosto heb newid yr hofran neu'r ffocws, ac nad oes modd hofran dros y cynnwys heb iddo ddiflannu. Mae hyn yn methu WCAG 1.4.13 Cynnwys trwy hofran neu ffocws.
  • Mae yna achosion ledled y wefan lle nad oes modd defnyddio bysellfwrdd i roi botymau gweithredu ar waith. Hefyd, pan fydd porwr defnyddiwr yn cael ei chwyddo, gall dewislenni leihau i fod yn ddewislenni byrgyr i helpu i gyflwyno'r cynnwys ar sgrin lai; fodd bynnag, nid oes modd defnyddio bysellfwrdd i weithredu pob cydran ychwanegol. Mae'r rhain yn methu WCAG 2.1.1 Bysellfwrdd.
  • Mae yna achosion lle nad oes modd oedi, atal na chuddio gwybodaeth sy'n symud, yn fflachio neu'n sgrolio ac sy'n cychwyn yn awtomatig ac yn para mwy na 5 eiliad. Mae hyn yn methu WCAG 2.2.2 Oedi, atal, cuddio.
  • Nid oes gan rai tudalennau ar draws y wefan deitlau sy'n disgrifio pwnc neu ddiben y dudalen, neu sy'n unigryw. Mae hyn yn methu WCAG 2.4.2 Teitlau tudalennau
  • Pan fydd cynnwys cudd yn cael ei ddatgelu, nid yw'r ffocws bob amser yn symud i'r cynnwys ac nid yw defnyddwyr yn gallu tabio'n uniongyrchol i'r cynnwys hwnnw. Nid yw trefn y ffocws bob amser yn rhesymegol ar draws y wefan chwaith. Mae'r rhain yn methu WCAG 2.4.3 Trefn y ffocws.
  • Mae yna ambell achos lle nad yw diben dolen yn eglur yn ôl y testun cyswllt yn unig neu yn ôl ei chyd-destun uniongyrchol. Mae hyn yn methu WCAG 2.4.4 Diben dolen (yn ei chyd-destun).
  • Nid oes gan bob elfen ryngweithiol ddangosydd gweladwy pan fydd wedi'i ffocysu trwy ddefnyddio bysellfwrdd. Mae hyn yn methu WCAG 2.4.7 Ffocws gweladwy
  • Mae yna achosion lle mae rhywfaint o'r wybodaeth sydd ar gael yn y testun gweladwy ar goll o'r enw hygyrch, neu mae enw hygyrch elfennau penodol yn wahanol i'r testun gweladwy. Mae'r rhain yn methu WCAG 2.5.3 Label mewn enw.
  • Mae yna achosion lle mae testun Cymraeg yn cael ei ddefnyddio heb i'r iaith gael ei nodi ar ffurf rhaglen. Mae hyn yn methu WCAG 3.1.2 Iaith rhannau.
  • Mae yna fannau ar draws y wefan lle mae ID dyblyg yn bresennol a dylai gwerthoedd ID fod yn unigryw. Mae yna achosion hefyd lle mae elfennau wedi'u nythu y tu mewn i rai eraill yn groes i'r fanyleb HTML gan arwain at HTML annilys. Mae'r rhain yn methu WCAG 4.1.1 Dosrannu.
  • Mae yna achosion hysbys lle nad oes gan ddolenni a mewnbynnau enw hygyrch. Nid yw cynnwys dynamig bob amser wedi'i guddio o olwg bob defnyddiwr, ac o bryd i'w gilydd nid oes iddo'r 'cyflwr' cywir o ran y rhaglen. Ar draws y wefan, mae yna ddolenni anweledig ond nid ydynt wedi'u cuddio o olwg defnyddwyr bysellfwrdd neu dechnoleg gynorthwyol ac nid oes ganddynt enwau hygyrch priodol. Yn olaf, gall fod yna iFrames yn cael eu defnyddio ar draws y wefan nad oes ganddynt enwau hygyrch. Mae'r rhain yn methu WCAG 4.1.2 Enw, rôl, gwerth.
  • Mae yna achosion lle mae negeseuon gwallau yn ymddangos ar ffurflenni ac nid yw defnyddwyr technoleg gynorthwyol yn cael gwybod am y negeseuon hyn. Mae hyn yn methu WCAG 4.1.3 Negeseuon statws.

O ganlyniad i'r materion hygyrchedd a nodir, a chan fod y cymorth ar gyfer y System Rheoli Cynnwys a ddefnyddiwn i gynnal y wefan hon, ar fin dod i ben, mae'r Gwasanaeth wedi comisiynu gwaith i gynhyrchu gwefan newydd, a fydd yn cychwyn ddechrau 2023. Rhagwelir y bydd y wefan newydd wedi cael ei datblygu ac yn fyw erbyn 31 Rhagfyr 2023; fodd bynnag, hyd nes y bydd y Gwasanaeth yn penodi contractwyr allanol, ni allwn warantu hyn.

Yn y cyfamser, rydym wrthi'n adolygu'r wefan hon yn ei chyfanrwydd er mwyn cywiro cynifer o'r problemau hygyrchedd â phosibl tra bo gwefan newydd yn cael ei datblygu.

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Dogfennau PDF a dogfennau eraill

Mae rhai o'n dogfennau PDF a Word yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, mae gennym ddogfennau PDF sy'n cynnwys gwybodaeth am y modd y gall defnyddwyr gyrchu ein gwasanaethau, ynghyd â ffurflenni a gyhoeddir ar ffurf dogfennau Word. Erbyn mis Medi 2020, rydym yn bwriadu naill ai cywiro'r rhain neu roi tudalennau HTML hygyrch yn eu lle.

Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni gywiro dogfennau PDF na dogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau.

Bydd unrhyw ddogfennau PDF neu Word newydd a gyhoeddwn yn bodloni'r safonau hygyrchedd.

Beth yr ydym yn ei wneud i wella hygyrchedd?

O ganlyniad i'r materion hygyrchedd a nodir, a chan fod y cymorth ar gyfer y System Rheoli Cynnwys a ddefnyddiwn i gynnal y wefan hon, ar fin dod i ben, mae'r Gwasanaeth wedi comisiynu gwaith i gynhyrchu gwefan newydd, a fydd yn cychwyn ddechrau 2023. Rhagwelir y bydd y wefan newydd wedi cael ei datblygu ac yn fyw erbyn 31 Rhagfyr 2023; fodd bynnag, hyd nes y bydd y Gwasanaeth yn penodi contractwyr allanol, ni allwn warantu hyn.

Er mwyn parhau i wella ein cydymffurfedd â'r rheoliadau hygyrchedd ar y wefan hon yn y cyfamser, rydym 'nawr yn defnyddio nifer o offer ar-lein i fonitro ein perfformiad, gan gynnwys:

Gwirydd Hygyrchedd

Google Lighthouse

Rydym wrthi'n ystyried cyhoeddi dogfennau yn y dyfodol mewn fformat HTML yn hytrach na PDF, lle bo hynny'n bosibl.

Bwriadwn gywiro cynifer â phosibl o'r materion hygyrchedd a nodwyd tra bo'r gwaith yn mynd rhagddo i ddatblygu gwefan newydd ein Gwasanaeth.

Paratoi'r Datganiad Hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 7 Rhagfyr 2022, a chafodd ei adolygu ddiwethaf ar 7 Rhagfyr 2022.

Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf gan y Tîm Monitro Hygyrchedd yng Ngwasanaeth Digidol y Llywodraeth rhwng 16 Medi 2022 a 2 Tachwedd 2022.