Diogelu'n Cymunedau.

Croeso i Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.






Cynllunio'r dyfodol

Cynllun Strategol 2022-2027

Mae'n bleser gennym gyflwyno ein Cynllun Strategol ar gyfer 2022-2027, sy'n nodi ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol.

Darllenwch ein Cynllun Strategol

Cynllun Gwella Busnes Blynyddol 2023/2024

Mae ein Cynllun Gwella Busnes Blynyddol yn rhan o gyfres o ddogfennau a gynlluniwyd i gyflawni ein gweledigaeth, ein cenhadaeth a'n gwerthoedd. 

Darllenwch ein Cynllun Gwella Busnes Blynyddol

Newyddion Diweddaraf

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn gweithio mewn partneriaeth ag Achub Bywyd Cymru ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i gynyddu nifer y diffibrilwyr mynediad cyhoeddus sy’n achub bywydau.

Mae adran Bowlio Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi bod yn brysur!

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yn cefnogi wythnos Diogelwch Tân Myfyrwyr, gan eu hannog i ystyried diogelwch tân yn eu llety newydd.

Mae heddiw’n nodi dechrau Wythnos Diogelwch Drysau Tân, gyda’r nod o godi ymwybyddiaeth o’r rôl hollbwysig y mae drysau tân yn ei chwarae wrth achub bywydau a diogelu eiddo os digwydd tân.

Mae myfyrwyr ar draws ardal Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cael eu hannog i gadw'n ddiogel ac i osgoi’r dŵr dros gyfnod Ffair y Glas.

Ddydd Sul, Medi 10fed, galwyd criwiau’r Tymbl, Llanelli, Pontarddulais, Pont-iets a Threforys i ddigwyddiad ym Manc y Gors, Tymbl Uchaf.

Mae dau dîm Chwilio ac Achub Rhyngwladol y DU (UK-ISAR) wedi eu hanfon i Foroco i gefnogi'r ymateb i'r daeargryn trasig a digwyddodd ddydd Gwener, Medi 8fed.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn annog busnesau i wneud diogelwch tân yn flaenoriaeth.


O dan sylw

#DawnsGlaw

Mae Ymgyrch Dawns Glaw, sy'n dasglu amlasiantaethol o arbenigwyr o asiantaethau allweddol ledled Cymru, wedi ailffurfio i leihau, a lle bo hynny'n bosibl, dileu effaith tanau glaswellt ledled Cymru. 

Ewch i'n tudalennau Dawns Glaw am mwy o wybodaeth

Gofalu yn y Gwanwyn

Mae'r gwanwyn wedi cyrraedd! Gyda mwy o oriau o olau dydd a nosweithiau goleuach ar y ffordd, dyma'r cyfle perffaith i ddechrau ar y tasgau hynny o amgylch y tŷ a'r ardd a oedd wedi cael eu gohirio yn ystod misoedd y gaeaf.

Am ragor o wybodaeth ewch i'n tudalen ymgyrch Gofalu yn y Gwanwyn