Y buddion y byddwch chi'n eu derbyn
Mae cyfradd tâl diffoddwyr tân ar alwad yn dibynnu ar eich argaeledd. Cyfrifir y ffi gadw yn dibynnu ar nifer yr oriau sydd ar gael gennych yn wythnosol.
Yn ogystal â'r ffi gadw, byddwch hefyd yn cael eich talu cyfradd yr awr am fynychu'r canlynol:
- Nosweithiau Dril
- Cyrsiau Hyfforddi
- Gwaith Diogelwch Cymunedol
- Profion Safonol
Your salary
Bydd gwybodaeth fanwl am gyflog yn cael ei thrafod gyda chi yn ystod y broses recriwtio.
Pensionable pay
Byddwch yn gallu cyfrannu at Gynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru 2015) o'ch diwrnod sefydlu. Y gyfradd gyfredol fel Diffoddwr Tân Cymwys, mae'r Gweithiwr yn talu 12.9% ac mae'r Cyflogwr yn talu 27.3% o'ch cyflog.
Gwyliau blynyddol
Bydd gennych hawl i 28 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn, gan godi i 35 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o gyflogaeth barhaus.
Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd
Mae Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn gyflogwr hyderus ag anableddau.
Cyfleoedd Cyfartal
Mae’r Gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru’n ymrwymedig i ddatblygu a hyrwyddo Cyfleoedd Cyfartal a Thegwch yn y Gweithle.