16.05.2025

Diwrnod Recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad yng Ngorsaf Dân Pont-iets

Ymunwch â'r Diffoddwyr Tân Ar Alwad yng Ngorsaf Dân Pont-iets ddydd Sadwrn, Mai 24ain, i ddysgu mwy am rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad a'r cyfleoedd recriwtio sydd ar gael fel rhan o'n System Griwio Ar Alwad ar ei newydd wedd.

Gan Steffan John



Diwrnod Recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad yng Ngorsaf Dân Pont-iets

Ymunwch â'r Diffoddwyr Tân Ar Alwad yng Ngorsaf Dân Pont-iets ddydd Sadwrn, Mai 24ain, i ddysgu mwy am rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad a'r cyfleoedd recriwtio sydd ar gael fel rhan o'n System Griwio Ar Alwad ar ei newydd wedd.

Mae ein System Criwio Ar Alwad ar ei newydd wedd yn cynnig y canlynol:

  • Ymrwymiad hyblyg: Gallwch wasanaethu eich cymuned wrth gynnal swydd arall, ffordd o fyw neu gydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.
  • Iawndal: Enillwch arian am hyfforddiant, driliau a galwadau allan, ynghyd â thâl cadw blynyddol.
  • Datblygiad personol: Datblygwch sgiliau gwerthfawr mewn ymateb i argyfyngau a chael mynediad at hyfforddiant a thystysgrifau proffesiynol.
  • Dilyniant gyrfa: Gallai hwn fod yn gam cyntaf i chi yn eich gyrfa Diffodd Tân Amser Llawn neu rolau gwasanaethau brys eraill.

Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ac eich cymuned.

Ar draws Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC), mae 75% o’n Gorsafoedd Tân yn cael eu criwio’n gyfan gwbl gan Ddiffoddwyr Tân Ar Alwad. Maen nhw'n amddiffyn ein trefi bach a'n cymunedau gwledig.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad ym mhob un o’n Gorsafoedd Tân Ar Alwad.  Cewch fwy o wybodaeth yma.

Bydd criw Gorsaf Dân Pont-iets yn hapus i drafod ymhellach ac ateb unrhyw gwestiynau rhwng 10yb a 2yp ar Ddydd Sadwrn, Mai 24ain. Nid oes angen archebu ymlaen llaw.

Cyfeiriad: Gorsaf Dân Pont-iets, Heol Meinciau, Pont-iets, Sir Gaerfyrddin, SA15 5TR


Erthygl Flaenorol