Mae’r Adroddiad Amgylcheddol Blynyddol hwn yn amlinellu perfformiad a chyflawniadau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru tuag at wireddu ein hamcanion amgylcheddol ym mlwyddyn ariannol 2022/23. Mae’n ystyried targedau Llywodraeth Cymru a thargedau Cenedlaethol yn ogystal â rhwymedigaethau statudol a osodir ar sefydliadau’r Sector Cyhoeddus yn sgil Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
Mae’r Adroddiad yn amlinellu meysydd perfformiad allweddol y Gwasanaeth mewn meysydd lle gallwn gael yr effaith fwyaf ar yr amgylchedd, megis y defnydd o ynni, allyriadau carbon, y fflyd, cynhyrchu gwastraff a’r gadwyn gyflenwi.
Fel y Gwasanaeth Tân mwyaf yng Nghymru o ran ardal, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn gyfrifol am 58 o orsafoedd tân mewn ardal sy’n cwmpasu 4,500 o filltiroedd sgwâr o dirwedd wledig yn bennaf, sef tri chwarter Cymru. Mae’r mathau o ddigwyddiadau yr ydym yn ymateb iddynt a’u nifer y tu hwnt i’n rheolaeth; yr hyn y gallwn ei reoli yw sut i fynd i’r afael â digwyddiad i gael yr effaith andwyol leiaf ar yr amgylchedd lle bo hynny’n rhesymol ymarferol. Rydym yn ceisio sicrhau bod ein gweithrediadau a’n gweithgareddau yn lleihau’r effaith y mae tanau yn ei chael ar yr amgylchedd trwy hyfforddiant, gan gydweithio â sefydliadau fel Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a thrwy ymgysylltu â’r gymuned.