Cynllun Gwella Busnes Blynyddol 2023/2024



Mae ein Cynllun Gwella Busnes Blynyddol yn rhan o gyfres o ddogfennau a gynlluniwyd i gyflawni ein gweledigaeth, ein cenhadaeth a'n gwerthoedd. Mae'r Cynllun hwn wedi'i ddatblygu i gydnabod yr heriau y mae'r Gwasanaeth yn eu hwynebu. Rydym am allu ymateb yn gyflym, yn hyblyg ac ar y cyd i'r heriau hyn er mwyn darparu'r gwasanaethau gorau posibl i'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.

Er mwyn ein helpu i gyflawni ein gweledigaeth a'r Ymrwymiadau a amlinellwyd gennym yn ein Cynllun Strategol 2022-2027, rydym wedi datblygu pum Amcan Gwella a Llesiant y byddwn yn ceisio eu cyflawni yn ystod y deuddeg mis nesaf. Mae'r Cynllun hwn yn nodi pam yr ydym wedi dewis blaenoriaethu'r Amcanion Gwella a Llesiant hyn, y modd y byddwn yn eu cyflawni a’r modd y bydd y gwelliannau o fudd i'n cymunedau.

 Roger Thomas Chief Fire Officer


Ein hymrwymiadau




Ymrwymiad 1



Rydym yn ymrwymedig i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu medrus iawn.




Ymrwymiad 2



Rydym yn ymrwymedig i gynnal iechyd, llesiant a ffyniant y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.




Ymrwymiad 3



Rydym yn ymrwymedig i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd.




Ymrwymiad 4



Rydym yn ymrwymedig i wella'r ffordd yr ydym yn gweithio, trwy ddysgu sefydliadol.



Amcanion Gwella a Llesiant



Amcan Un



Byddwn yn datblygu profiad cadarnhaol i'n pobl gan sicrhau bod llesiant yn flaenoriaeth, a byddwn yn creu gweithle amrywiol sy'n ddeniadol i ymuno ag ef ac sy'n darparu cyfleoedd i ddatblygu a chamu ymlaen.



Mae'r amcan hwn yn cyd-fynd â'r hymrwymiadau canlynol

 Commitment 1
 Commitment 2
 Commitment 4


Dysgwch ragor am Amcan Un



Rydym yn gwybod bod yna lawer o fanteision i greu profiad cadarnhaol i'n pobl, a dyna pam y mae iechyd a llesiant ein pobl yn parhau i fod yn faes blaenoriaeth i ni. Ein nod yw gwneud yr hyn sy'n bosibl i helpu ein pobl i fyw bywydau hirach, iachach a chyflawn, a hynny trwy greu gweithle atyniadol sy'n darparu cyfleoedd i unigolion ddatblygu a chamu ymlaen.

Rydym am i'n pobl feddu ar yr hyder a'r cyfle i dyfu a datblygu, gan eu galluogi i gyflawni eu potensial a chyrraedd nodau eu gyrfaoedd. Trwy ddarparu cyfleoedd datblygu i'n pobl, nid yn unig y mae'n sicrhau bod ganddynt y sgiliau cywir i gyflawni eu rôl, ond mae hefyd yn creu amgylchedd lle mae pobl yn cael eu grymuso a'u hannog i gymryd rhan yng ngwaith y Gwasanaeth ehangach. Bydd proses effeithiol o reoli a datblygu pobl yn sicrhau ein bod yn cynnal diwylliant o berfformio'n dda ac yn parhau i ddarparu gwasanaethau proffesiynol ac effeithiol i chi a'ch cymunedau.

Ein pobl yw ein hased mwyaf gwerthfawr. Mae'r bobl sy'n gweithio ac yn gwirfoddoli i ni yn gweithio'n galed i ddarparu'r gwasanaethau gorau posibl i'n cymunedau. Rydym am sicrhau bod ein pobl wedi'u harfogi a'u hyfforddi i allu cyflawni eu rolau hyd eithaf eu gallu, a'u hannog i wireddu eu potensial yn llawn.

Ein nod yw recriwtio, datblygu a chadw gweithlu amrywiol, dwyieithog a medrus iawn sy'n cynrychioli'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. Bydd ein dull gweithredu yn nodi ac yn cynyddu potensial ein gweithlu i'r eithaf, gan gynnal diwylliant o berfformio'n dda a gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o gyllid cyhoeddus.

Rydym yn mynd i wneud y canlynol:

  • Cynnal rhaglen gadarn i adolygu'r modd y gallwn wella prosesau recriwtio a chadw diffoddwyr tân Ar Alwad.
  • Archwilio arferion gweithio ystwyth a threfniadau amgen sy'n cefnogi ein pobl.
  • Cyflwyno proses Arfarnu newydd a fydd yn sicrhau bod gan ein pobl y cymorth i ennill y sgiliau a'r wybodaeth y mae arnynt eu hangen.
  • Cynnal ymarfer i nodi'r hyn sy'n atyniadol am weithio i'r Gwasanaeth Tân ac Achub, a hynny i gefnogi gweithgareddau recriwtio a chadw.
  • Sicrhau ein bod yn denu a recriwtio pobl sy'n meddu ar y gwerthoedd a'r sgiliau cywir ar gyfer y rôl, a'u bod yn gynrychioliadol o’r cymunedau amrywiol yr ydym yn eu gwasanaethu.

  • Lefelau uwch o ymgysylltu ac ymwneud â'n pobl, a'u bod yn cymryd rhan i helpu i lywio'r Gwasanaeth.
  • Lefelau salwch is ledled y Gwasanaeth.
  • Gwell gwybodaeth am y rolau sydd ar gael yn y Gwasanaeth, a gwell dealltwriaeth ohonynt.
  • Cynnydd yn nifer a safon yr ymgeiswyr sy'n gwneud cais i weithio i'r Gwasanaeth.
  • Nodi cyfleoedd pellach ar gyfer hyfforddi a datblygu.
  • Mwy o fodlonrwydd i staff yn eu swyddi, a chynnydd o ran morâl ac o ran cadw ein pobl.


Amcan Dau



Byddwn yn archwilio ffyrdd newydd o gael effaith gadarnhaol ar y buddion cymdeithasol ac economaidd hirdymor a gaiff ein busnes ar ein cymunedau.



Mae'r amcan hwn yn cyd-fynd â'r hymrwymiadau canlynol

 Commitment 1
 Commitment 2
 Commitment 4


Dysgwch ragor am Amcan Dau



A ninnau'n sefydliad mawr, rydym yn cydnabod y gallwn gael effaith sylweddol ar yr economi, ac rydym yn ymrwymedig i sicrhau ein bod yn cyflawni ein dyletswydd foesol i fanteisio i'r eithaf ar y buddion hyn i'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu, gan wella ein cyfraniad i'r economi leol a lleihau'r costau i gymdeithas. Rydym yn ymrwymedig i hybu gwerth am arian, a hynny trwy lywodraethu cryf, rheoli cyllid a risgiau mewn modd cadarn, adolygu trefniadau darparu gwasanaethau, monitro perfformiad y Gwasanaeth, a sicrhau bod gwasanaethau yn hygyrch i bawb a all elwa ohonynt.

Wrth addasu ac amrywio ein gweithgareddau i ddiwallu anghenion ein cymunedau yn well, a gwella'r ffordd yr ydym yn diwallu anghenion y bobl sy'n byw ac yn gweithio yn ein cymunedau, ac yn ymweld â nhw, byddwn yn helpu i'w gwneud mor ddiogel ac mor llwyddiannus â phosibl.

Mae gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i'r cymunedau amrywiol yr ydym yn eu gwasanaethu yn bwysig iawn i ni. Mae gan bob tân yr ydym yn mynd iddo gost i bobl, i leoedd ac i'n hamgylchedd, felly, lle bynnag y bo modd, mae atal tanau yn flaenoriaeth i ni. Rydym am barhau i weithio gyda'n partneriaid i nodi cyfleoedd i gyflawni amcanion cytunedig sydd o fudd i bawb, gan ein bod yn gwybod bod gweithio’n agos gyda'n partneriaid nid yn unig yn helpu i osgoi dyblygu gwasanaethau, ond mae hefyd yn ddefnydd gwell o arian cyhoeddus ac yn darparu manteision lluosog i'n cymunedau.

Rydym yn mynd i wneud y canlynol:

  • Cynnal adolygiad cadarn o'n mentrau diogelwch cymunedol presennol i weld a ydynt yn mynd i'r afael ag anghenion y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethau 'nawr ac yn y dyfodol.
  • Ystyried effaith a manteision ein mentrau cymunedol a'n trefniadau gweithio mewn partneriaeth.
  • Gwerthuso a mesur canlyniadau ein partneriaethau, ein hymgysylltiadau a'n trefniadau cydweithio i sicrhau eu bod yn darparu gwelliannau nid yn unig i'n Gwasanaeth, ond hefyd i'n cymunedau.
  • Defnyddio ein dyletswyddau o fod yn bartner statudol ar Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i chwarae ein rhan yn y broses o ddarparu buddion eang i'n cymunedau.
  • Parhau i hybu ac annog y defnydd o'n Gorsafoedd Tân ac asedau eraill er budd ein cymunedau.

  • Perthnasoedd gwell â'n cymunedau a'n partneriaid, a lefelau ymgysylltu a chyfranogi uwch.
  • Manteisio ar gyfleoedd i rannu gwybodaeth yn sgil ein hymgysylltiad â phartneriaid, a hynny er budd ein cymunedau.
  • Defnydd rheolaidd o'n Gorsafoedd Tân a'n hasedau gan sefydliadau partner a chymunedau i gynnal cyfarfodydd a digwyddiadau cymunedol.
  • Lefelau ymgysylltu uwch rhwng ein Gorsafoedd Tân a chymunedau lleol.


Amcan Tri



Byddwn yn gweithio tuag at ddod yn sefydliad sero net erbyn 2030.



Mae'r amcan hwn yn cyd-fynd â'r hymrwymiadau canlynol

 Commitment 2
 Commitment 3
 Commitment 4


Dysgwch ragor am Amcan Tri



Rydym yn gwybod mai lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd, a chynyddu'r ffyrdd y gallwn ei wella yw'r peth cywir i'w wneud. Bydd gweithio tuag at fod yn sefydliad carbon sero net o ran ein hallyriadau yn ein helpu i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd ac yn ein galluogi i ddod yn Wasanaeth Tân ac Achub mwy cynaliadwy.

Wrth ddod yn fwy ymwybodol o'r effaith uniongyrchol ac anuniongyrchol a gawn ar ein hamgylchedd, bydd yn ein helpu i leihau ein hôl troed carbon. P'un a yw'n ymwneud â newid y ffordd yr ydym yn cyflawni ein gweithgarwch gweithredol, yn ymgymryd â mentrau i arbed ynni, neu'n gweithio gyda chyflenwyr â niwtraledd carbon yn eu hethos, mae angen i ni chwarae ein rhan i amddiffyn ein planed a diogelu cenedlaethau'r dyfodol.

Rydym am weithio gyda'n cymunedau i ddeall eu hanghenion amgylcheddol er mwyn cael y lefel gywir o effaith a sicrhau'r canlyniad gorau i bawb. Wrth fynd ati i annog a gwella'r amgylchedd naturiol, bioamrywiaeth a chynefinoedd ar ein hystad, byddwn yn hybu ecosystem iach, yn gwella ansawdd yr aer yn lleol, yn ogystal â helpu i wella iechyd a llesiant meddyliol ein cyflogeion.

Rydym yn mynd i wneud y canlynol:

  • Cyflwyno offeryn Asesu Effeithiau Amgylcheddol.
  • Parhau i weithio gydag asiantaethau partner i archwilio cyfleoedd i fesur faint o ddŵr a ddefnyddir mewn digwyddiadau gweithredol.
  • Defnyddio prosesau ymgysylltu â'n pobl i gasglu adborth am y modd y mae ein nodau lleihau carbon yn gweithio.
  • Archwilio ffyrdd y gallwn gaffael nwyddau a gwasanaethau ecogyfeillgar.
  • Cytuno ar set ddata sylfaenol well a nodi mentrau lleihau carbon penodol i gyflawni ein gweledigaeth sero net.
  • Addysgu ein pobl i gefnogi ymhellach eu dealltwriaeth o niwtraledd carbon a'r modd y gallant ein helpu i gyflawni hynny.

  • Parhau i weld gostyngiad a lefelu yn ein defnydd blynyddol o garbon a dŵr.
  • Bydd set ddata sylfaenol well yn ein galluogi i ddatblygu mentrau a fydd yn cyfrannu at uchelgais Llywodraeth Cymru o sicrhau sector cyhoeddus carbon niwtral.
  • Dysgu a gwneud gwelliannau i'r modd yr ydym yn rheoli digwyddiadau gweithredol i ddiogelu'r amgylchedd naturiol.
  • Adborth gan gyrff allanol, ein pobl, a rhanddeiliaid allanol ar ein perfformiad yn unol â'n dyhead i weithio tuag at ddod yn sefydliad sero net.


Amcan Pedwar



Byddwn yn ymgorffori cyfleoedd i gipio, cyfleu a gweithredu pob agwedd ar ddysgu sefydliadol, gan feithrin diwylliant o welliant parhaus.



Mae'r amcan hwn yn cyd-fynd â'r hymrwymiadau canlynol

 Commitment 1
 Commitment 2
 Commitment 3
 Commitment 4


Dysgwch ragor am Amcan Pedwar



Mae dysgu sefydliadol yn allweddol i'r hyn yr ydym ni, y Gwasanaeth Tân ac Achub, yn ei wneud. Mae'n ein helpu i lunio ein harferion a'n gweithdrefnau ar gyfer y dyfodol, gweithredu ffyrdd mwy diogel o weithio ar gyfer ein pobl, a lleihau'r risg i'n cymunedau.

Wrth fynd ati i ymgorffori cyfleoedd i gipio, cyfleu a gweithredu pob agwedd ar ddysgu sefydliadol, byddwn yn sicrhau ein bod yn cynyddu cyfleoedd i weithio mewn modd effeithiol ac effeithlon i'r eithaf, gan weithredu ffyrdd mwy diogel o weithio ar gyfer ein pobl.

Rydym yn mynd i wneud y canlynol:

  • Parhau i ddatblygu ac ymgorffori dull o gipio a chofnodi'r holl ddysgu anweithredol ledled y Gwasanaeth.
  • Archwilio'r ffyrdd y mae dysgu sefydliadol a sicrwydd busnes yn cael eu cyfleu ledled y Gwasanaeth.
  • Sicrhau bod yr holl ddysgu a'r gwersi a ddysgwyd yn cael eu cipio a'u cynnwys yn y trefniadau cynllunio a’r prosiectau corfforaethol yn y dyfodol.
  • Ymgorffori a chyfleu dysgu allanol, a hybu'r manteision ehangach ledled y Gwasanaeth.
  • Nodi dull o gipio a choladu gwybodaeth am y profiadau dysgu cadarnhaol a negyddol, fel ei gilydd, sy'n deillio o'n gweithgareddau.

  • Profiadau dysgu cadarnhaol yn cael eu rhannu ledled y Gwasanaeth i helpu'r prosesau gwelliant parhaus a dysgu sefydliadol.
  • Gwelliannau i'n harferion a'n gweithdrefnau, a hynny er budd ein pobl a'n cymunedau.
  • Lefelau uwch o gyfathrebu ac ymgysylltu â'n pobl ar ganlyniadau dysgu sefydliadol.
  • Adborth cadarnhaol gan ein pobl ar y newidiadau a'r gwelliannau a wnaed.


Amcan Pump



Byddwn yn parhau i gynnal ymarfer data sylfaenol i gefnogi'r gwaith o gysoni strategaethau cynllunio ac ariannol, ac i lywio datblygiad gwelliannau, amcanion a mentrau sy'n canolbwyntio ar reoli risgiau cymunedol.



Mae'r amcan hwn yn cyd-fynd â'r hymrwymiadau canlynol

 Commitment 1
 Commitment 2
 Commitment 3
 Commitment 4


Dysgwch ragor am Amcan Pump



A ninnau'n Wasanaeth Tân ac Achub, rydym yn arloesol, yn uchelgeisiol ac yn awyddus i gynyddu ein potensial a'r effaith y gallwn ei chael ar ddiogelwch y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu, a hynny i'r eithaf.

Mae'r Gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru ac, yn wir, ledled y DU, yn mynd trwy gyfnod o newid o ganlyniad i adolygiadau eang ar nifer o reoliadau, deddfwriaethau a dyletswyddau statudol. Rydym yn awyddus i fod yn rhagweithiol, nid yn unig i ddylanwadu ar ganlyniadau unrhyw adolygiadau, ond er mwyn eu hymgorffori mewn modd sy'n gwella ein trefniadau o ran atal, amddiffyn ac ymateb, ac, yn eu tro, sy'n gwella iechyd, diogelwch a llesiant hirdymor y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.

Mae diogelu ein cymunedau bob amser wedi bod yn un o'n prif flaenoriaethau, a bydd yn parhau i fod felly. Trwy chwarae rhan weithredol o ran dylanwadu ar ganlyniadau unrhyw adolygiadau, rydym yn sicrhau ein bod ar flaen y gad mewn perthynas â'r newidiadau y mae angen i ni eu gwneud i'ch cadw chi a'ch cymunedau'n ddiogel.

Rydym yn cyfeirio ein hadnoddau atal, amddiffyn ac ymateb fel eu bod yn darparu'r budd mwyaf posibl ar fuddsoddiad, ac yn lleihau effaith gyffredinol y risgiau rhagweladwy sy'n ein hwynebu.

Rydym yn mynd i wneud y canlynol:

  • Paratoi ar gyfer y newidiadau i Fframwaith Cenedlaethol y Gwasanaethau Tân ac Achub (Cymru) a gwneud y newidiadau angenrheidiol i'n prosesau cynllunio.
  • Parhau i adolygu'r data sydd gennym, pennu eu dilysrwydd a'u hadnewyddu lle bo gofyn.
  • Parhau i weithio gyda'n partneriaid i ddeall pa ddata y maent yn eu casglu, a phennu eu heffeithiolrwydd ar gyfer ein defnydd ein hunain.
  • Parhau i gynnal dadansoddiad cadarn o unrhyw ddata a gasglwn ac a gedwir gennym er mwyn sicrhau gwell dealltwriaeth o'r risgiau cyfredol yn ein cymunedau, a risgiau yn y dyfodol.
  • Cynnal deialog â'n staff gweithredol a'r undebau sy'n eu cynrychioli i sicrhau ein bod yn gwneud y defnydd gorau o'u gwybodaeth leol a'u barn broffesiynol mewn unrhyw benderfyniadau a wneir yn y dyfodol.
  • Defnyddio'r wybodaeth y byddwn yn ei choladu o'r ymarfer hwn i ddeall lle y dylid lleoli ein pobl a'n hadnoddau.
  • Adolygu ein cymdymffurfedd yn unol â deddfwriaethau cyfredol, gan sicrhau ein bod yn parhau i lynu wrth eu gofynion.
  • Gweithredu gofynion unrhyw ddeddfwriaeth newydd a osodir arnom.
  • Gweithio gyda'n partneriaid i adolygu ein trefniadau cyfredol o ran atal, amddiffyn ac ymateb er mwyn gwella'r ffordd y cânt eu cyflawni er budd ein cymunedau.

  • Bydd cynnal ymarfer data sylfaenol yn helpu i sicrhau ein bod yn cynllunio ar gyfer yr hirdymor ac yn rhagweld, 'nawr, unrhyw newidiadau i'n cymunedau yn y dyfodol.
  • Bydd y data yn dylanwadu ar y gwaith o ddatblygu Cynllun Rheoli Risgiau Cymunedol, a fydd yn helpu i barhau i gadw ein cymunedau'n ddiogel trwy sicrhau bod gennym y bobl orau, yn y llefydd cywir, gyda'r cyfarpar a'r adnoddau gorau.


Fersiynau Amgen



Mae’n dogfennu ar gael mewn fformatau hygyrch. Os hoffech gael yr wybodaeth hon mewn fformat neu iaith amgen, gan gynnwys ar ffurf sain, cysylltwch â ni ar: 0370 6060699 neu drwy e-bost: post@tancgc.gov.uk.