Pan fyddwch yn cysylltu â ni’n uniongyrchol drwy ddefnyddio’r rhif ffôn brys, sef 999, neu rif ffôn nad yw’n un brys, byddwn yn gofyn am wybodaeth bersonol a gwybodaeth am eich lleoliad, megis enw, cyfeiriad, dyddiad geni, rhyw, manylion cyswllt (rhif ffôn neu e-bost), ble rydych yn byw a ble rydych pan rydych yn cysylltu â ni. Hefyd, byddwn yn casglu unrhyw beth sy’n berthnasol i ddiogelu bywyd neu achub eiddo, megis manylion cofrestru car, neu a oes unrhyw ddeunyddiau fflamadwy neu gemegol yn cael eu storio yn lleoliad y digwyddiad, ac ati.
Mae peth o’r wybodaeth yn wirfoddol, megis eich enw a’ch dyddiad geni, ond gall effeithio’r gwasanaeth y byddwn yn ei ddarparu os na ddarperir y wybodaeth hon.
Gall peth o’r wybodaeth gael ei chasglu’n awtomatig gan ein system rheoli digwyddiadau, megis y rhif ffôn rydych yn ffonio ohono a’r lleoliad.
Bydd y wybodaeth a gasglwn yn cael ei defnyddio i ddarparu’r gwasanaeth(au) cyhoeddus priodol i chi neu i eraill. Gallai hynny gynnwys cysylltu â staff gwasanaethau brys eraill, er enghraifft, os rhoddir gwybod am wrthdrawiad traffig ffyrdd, rydym yn debygol o roi gwybod i’r gwasanaeth ambiwlans a/neu wasanaeth yr heddlu er mwyn sicrhau eu bod yn eich cyrraedd yn gyflymach.