Adnoddau Ymgyrch Llosgi i Ddiogelu
Er gwaethaf ein llwyddiannau yn y gorffennol, mae tanau gwyllt ledled Cymru yn parhau i fod yn berygl parhaol i'n hamgylchedd, i’n heconomi ac i’n cymunedau, a thros y pedair blynedd diwethaf rydym wedi gweld arwyddion cynnar bod y gostyngiad yn nifer yr achosion yn arafu, gan awgrymu y gallen ni fod angen dull newydd o weithredu i ddiogelu ein cymunedau.
Drwy greu dull aml-asiantaethol o ymdrin ag ymwybyddiaeth o danau gwyllt, nod Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru yw ymgysylltu â chynulleidfaoedd amrywiol, cydweithio er mwyn cefnogi’r gwaith o reoli tanau gwyllt, a gwrando a rhannu datrysiadau ymarferol ar gyfer Cymru.
Dyma pam rydym wedi datblygu'r dudalen hon, lle gall holl bartneriaid, cyfranwyr a rhanddeiliaid yr ymgyrch #LlosgiiDdiogelu gael gafael ar yr holl ddeunyddiau’n rhwydd:
- Pob Datganiad i'r Wasg (yn y Gymraeg a’r Saesneg) a gyhoeddwyd i gefnogi'r ymgyrch.
- Negeseuon cyfryngau cymdeithasol dwyieithog wedi'u hysgrifennu ymlaen llaw.
- Delweddau i chi eu lawrlwytho a’u defnyddio ar Facebook, Twitter, Instagram i gyd-fynd â'r negeseuon cyfryngau cymdeithasol a ysgrifennwyd ymlaen llaw – neu i gyd-fynd ag unrhyw negeseuon penodol eraill i’r asiantaeth yr ydych am eu postio i gefnogi'r ymgyrch.
- Pob ffotograff a fideo o ddigwyddiadau y gellid eu defnyddio i gefnogi'r ymgyrch.
- Unrhyw ddeunydd briffio a ddatblygir i’n cynorthwyo wrth gyfleu ein negeseuon i'n staff rheng flaen.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r dull o gyfathrebu’r ymgyrch #LlosgiiDdiogelu – neu os hoffech chi drafod unrhyw ddeunydd ychwanegol a fyddai'n fanteisiol i'r ymgyrch, cysylltwch â ni ar bob cyfrif.
Diolch yn fawr,
Swyddfa’r Wasg GTACGC
pressofficer@mawwfire.gov.uk