Pam yr ydym yn casglu eich gwybodaeth?
Yn unol â'r canllawiau a bennir ym Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009, mae'n ddyletswydd ar Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru i gael Cynllun Corfforaethol ar waith sy'n sicrhau ein bod …
- yn gwneud cynnydd yn unol â'n hamcanion;
- yn gwella ansawdd ein Gwasanaeth;
- yn gwella argaeledd gwasanaethau;
- yn lleihau anghydraddoldeb o ran cyrchu ein gwasanaethau neu elwa arnynt;
- yn sicrhau datblygu cynaliadwy;
- yn gwella effeithlonrwydd;
- yn arloesi.
Yn unol â'r ddeddfwriaeth honno, mae hefyd yn ofynnol i ni ymgynghori â rhanddeiliaid allweddol. Mae'r arolwg hwn yn un ffordd o wneud hynny.
Categorïau'r Data a Gesglir
Mae'r ddeddfwriaeth Diogelu Data yn cwmpasu dau gategori o wybodaeth – data personol a data personol “sensitif” (er enghraifft gwybodaeth am iechyd, crefydd neu gredoau, ethnigrwydd neu gyfeiriadedd rhywiol yr unigolyn).
Nid yw'r arolwg yn cynnwys y ddau gategori.
Mae pob cwestiwn yr ydym yn ei ofyn wedi cael ei ystyried yn ofalus, a chaiff ei ofyn dim ond pan fyddwn o'r farn y bydd yn ein helpu i gynllunio ein gwasanaeth yn y ffordd orau i wasanaethu ein cymunedau.
Mae'r holl gwestiynau sy'n gofyn am wybodaeth fwy sensitif yn rhai opsiynol – ni fydd yn rhaid i chi ateb y rheiny os na fyddwch yn dymuno gwneud hynny. Gallwch ddal i rannu eich barn am y Cynllun Corfforaethol Drafft; fodd bynnag, gallai hyn olygu y bydd cwmpas unrhyw adroddiadau dadansoddol manwl a lunnir wedi'i gyfyngu. Po fwyaf o wybodaeth yr ydych yn barod i'w darparu, mwyaf gwybodus y bydd y Gwasanaeth.
Rydym hefyd yn gofyn am fanylion cyswllt personol. Nid yw'n ofynnol i chi ddarparu'r wybodaeth hon oni bai eich bod am gael eich cynnwys yn ein raffl – neu eich bod wedi gofyn i ni gysylltu â chi am ryw reswm.
Pan fyddwn wedi cysylltu â'r enillydd/enillwyr ffodus, ac yntau/a hwythau wedi hawlio ei wobr/eu gwobr, bydd yr holl fanylion cyswllt yn cael eu gwaredu'n ddiogel.
Os byddwch wedi gofyn i ni gysylltu â chi am unrhyw reswm arall, gwaredir ar eich manylion mewn modd diogel yn dilyn y cyswllt hwnnw, oni bai ein bod yn cytuno â chi i'w chadw at ddibenion eraill.
Bydd yr holl fanylion cyswllt yn cael eu storio'n ddiogel ac yn unol â'r ddeddfwriaeth Diogelu Data.
Y sail gyfreithlon ar gyfer y prosesu
Ni chaniateir i'r Gwasanaeth gasglu gwybodaeth bersonol oni bai fod yna “sail gyfreithiol” i wneud hynny.
Yn unol â'r ddeddfwriaeth diogelu data, caniateir prosesu data at ddibenion ystadegol cyhyd ag y bo'r canlyniad yn ddata dienw na chaiff eu defnyddio i wneud penderfyniadau ynghylch unigolion penodol. Dyma sut yr ydym yn bwriadu defnyddio'r wybodaeth o'r arolwg.
Fel y crybwyllwyd, mae gennym hefyd gyfrifoldeb cyfreithiol i feddu ar gynllun corfforaethol, gyda gofyniad statudol i ymgynghori â rhanddeiliaid, a defnyddir canlyniadau'r arolwg i helpu i gynllunio ein gwasanaethau – gan gefnogi ein dyletswyddau a'n cyfrifoldebau cyhoeddus.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am hyn, cysylltwch â'n Swyddog Diogelu Data, y mae ei fanylion wedi'u darparu ar ddiwedd y ddogfen hon.
Sut y byddwn yn casglu gwybodaeth amdanoch?
Rydym yn casglu'r wybodaeth yn uniongyrchol gennych pan fyddwch yn llenwi'r arolwg ar ein gwefan neu ar y ffurflen bapur. Bydd unrhyw ffurflenni papur yn cael eu dinistrio wedi i'r adborth gael ei goladu.
Sut y defnyddir yr wybodaeth?
Bydd y data y byddwch yn eu darparu wrth i chi lenwi'r arolwg, naill ar ar-lein neu ar gopi papur, yn cael ei storio'n ddiogel ar ffurf electronig gan y Gwasanaeth. (Mae copïau papur o arolygon yn cael eu mewnbynnu i'n system electronig wrth iddynt ddod i law.)
Bydd mynediad at yr wybodaeth yn cael ei reoli'n ofalus er mwyn sicrhau mai dim ond y staff hynny y bydd arnynt ei hangen i'w dadansoddi a fydd yn gallu ei chyrchu.
Bydd unrhyw adroddiadau a lunnir yn dilyn dadansoddi'r canlyniadau yn rhai dienw.
Ni chaiff eich data personol eu rhannu ag unrhyw sefydliadau allanol.
Am ba hyd yr ydym yn cadw eich gwybodaeth?
Bydd copïau papur o arolygon yn cael eu gwaredu'n ddiogel cyn gynted ag y bydd y data wedi cael eu trosglwyddo i'n rhwydwaith diogel ein hun.
Bydd unrhyw wybodaeth bersonol a ddarperir ac a storir yn electronig yn cael ei dinistrio cyn pen tri mis wedi diwedd yr ymgynghoriad.
Ymholiadau a Phryderon ynghylch Diogelu Data
Gobeithio bod y ddogfen hon yn esbonio'n glir y modd y bydd eich data personol yn cael eu defnyddio. Fodd bynnag, os bydd gennych gwestiynau ar ôl ei darllen, neu os bydd gennych bryder ynghylch y ffordd y mae'r Gwasanaeth yn prosesu eich data personol, cysylltwch â'n Swyddog Diogelu Data, y mae ei fanylion wedi'u darparu isod.
Swyddog Diogelu Data
Pencadlys Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru,
Heol Llwyn Pisgwydd, Caerfyrddin SA31 1SP
Ebost: dataprotection@mawwfire.gov.uk
Rhif ffôn: 01267 226835