Gwerthu i ni

Os ydych yn gyflenwr Nwyddau neu Wasanaethau, a hoffech gyfle i werthu i ni, yna mae gennym ganllaw ar eich cyfer, sy’n esbonio ein hymagwedd at dendro a chaffael.  


Dyluniwyd y canllaw hwn i ddangos i gyflenwyr a chontractwyr sut i wneud y mwyaf o’r cyfleoedd sydd ar gael. Mae’n anelu at roi gwybodaeth a chyfarwyddyd i gyflenwyr a chontractwyr presennol a phosib, ar sut i ymgeisio am gontractau’r Gwasanaeth. Mae hefyd yn egluro pa ddeddfwriaeth sy’n dylanwadu ar ein gofynion tendro, ac mae’n disgrifio’r gweithdrefnau angenrheidiol i gynnig am waith trwy:
  • Egluro’r rheolau caffael sy’n rhaid i’r Gwasanaeth eu dilyn.
  • Amlinellu trothwyau tendro’r Gwasanaeth.  
  • Nodi sut yr ydym yn hysbysebu tendrau a cheisiadau am ddyfynbrisiau (RFQ).
  • Esbonio sut i gynnig am waith y Gwasanaeth.

Mae’r canllaw hwn yn rhan o’n hymrwymiad at “Agor Drysau – Y Siarter ar gyfer Caffael sy’n Gyfeillgar i Fusnesau Bach a Chanolig” gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, yr ydym wedi ymrwymo iddo.



Mynegiannau o Ddiddordeb Gweithredol / Ceisiadau am Ddyfynbrisiau / Tendrau



Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn ymrwymedig i ddefnyddio’r wefan Gaffael Genedlaethol​ i hysbysebu ei gyfleoedd i Fynegi Diddordeb, Cais am Ddyfynbris a Thendro.Hyd yn hyn, mae gwerth mwy na £1 biliwn o gontractau sector cyhoeddus Cymru wedi bod ar gael i fusnesau ar hyd a lled Cymru trwy’r Wefan Gaffael Genedlaethol (NPW)​. Mae’r wefan yn anelu at helpu Busnesau Bach a Chanolig i ennill mwy o fusnes sector cyhoeddus ac mae’n galluogi busnesau i chwilio a gweld cyfleoedd ar gyfer contractau mawr a bach, sy’n cael eu hysbysebu gan sefydliadau sector cyhoeddus Cymru.

Sut i Werthu i Wasanaeth Tân ac Achub Canolbartha Gorllewin Cymru – Canllaw i Gyflenwyr / Contractwyr Presennol a Phosib

Mae’r canllaw hwn yn rhan o’n hymrwymiad at “Agor Drysau – Y Siarter ar gyfer Caffael sy’n Gyfeillgar i Fusnesau Bach a Chanolig” gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, yr ydym wedi ymrwymo iddo.

Lawrlwythwch y Canllaw PDF: 'Sut i werthu...'