Rhyddid Gwybodaeth

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn rhoi hawl gyffredinol i’r cyhoedd i gael mynediad at bob math o wybodaeth gofnodedig a ddelir gan y Llywodraeth a’r awdurdodau cyhoeddus.



Rhaid i unrhyw berson sy'n gwneud cais i awdurdod cyhoeddus am wybodaeth gael gwybod a yw'r awdurdod cy​hoeddus yn cadw'r wybodaeth honno ac, yn amodol ar eithriadau, rhaid rhoi'r wybodaeth honno.

Os ydych yn dymuno gwneud cais am wybodaeth yn unol â’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (FOI), medrwch wneud hynny, ar bapur yn unig, trwy gysylltu â’r:

Swyddog Rhyddid Gwybodaeth
Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
Heol Llwyn Pisgwydd
Caerfyrddin
SA31 1SP

Ebostiwch y Gwasanaeth 

Bydd pob cais yn cael ei gydnabod, a bydd ymateb yn cael ei anfon o fewn 20 diwrnod gwaith.



Er mwyn sicrhau bod pob cais yn cael eu hymdrin mor effeithlon ag sy’n bosib, sicrhewch, os gwelwch yn dda, bod pob cais:

  • Yn glir ac yn ddealladwy, gyda digon o fanylion i helpu i ddod o hyd yr wybodaeth ofynnol
  • Yn cynnwys enw a manylion cyswllt
  • Yn nodi os oes angen yr wybodaeth ar ffurf benodol (er enghraifft, ar daenlen Excel)

Mae yna amgylchiadau ble gallai tâl gael ei godi i dalu am gostau gweinyddu, ac sy’n cael eu cyfrif trwy edrych ar unrhyw gostau a achoswyd yn uniongyrchol ac yn rhesymol wrth ddod o hyd i, a darparu’r wybodaeth. Mewn amgylchiadau o’r fath, mae angen talu ‘hysbysiad o ffioedd’ o fewn tri mis i gais Rhyddid Gwybodaeth, ac ni fydd yr wybodaeth yn cael ei ddarparu nes i’r ffi gael ei dalu.

Os yw cost amcanol darparu’r wybodaeth yn uwch na’r terfyn priodol a osodwyd gan y Llywodraeth, yna ni fydd dyletswydd ar yr Awdurdod i’w ddarparu, a byddwch yn cael gwybod os yw’r gost y tu hwnt i’r terfyn.



Os nad ydych yn fodlon gyda’r modd yr ymdriniwyd â’ch cais am wybodaeth, medrwch ofyn am adolygiad trwy ysgrifennu at:

Y Prif Swyddog Tân
Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
Heol Llwyn Pisgwydd
Caerfyrddin
SA31 1SP

Dylid gwneud apeliadau o fewn dau fis o dderbyn yr ymateb terfynol mewn perthynas â'ch cais. Mae hyn yn unol â chanllawiau Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Ein nod yw delio â'ch apél a'i llenwi cyn gynted ag y bo'n ymarferol, ac o fewn dau fis o dderbyn eich apél, yn unol â chanllawiau.

Os ydych yn dal i fod yn anfodlon gyda’r modd yr ymdriniwyd â’ch cais, mae gennych hawl i apelio i’r Comisiynydd Gwybodaeth yn:

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth – Cymru
2il Lawr, Tŷ Churchill
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH

Ffôn: 029 2067 8400
Ebostiwch Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth – Cymru 

 

Ein cyfeiriad

Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru Heol Llwyn Pisgwydd Caerfyrddin SA31 1SP Ffoniwch ni: 0370 6060699

Contact Us