Tîm Chwilio ac Achub Trefol Cymru (USAR)

Mae Tîm USAR Cymru yn cynnwys personél o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, gyda chefnogaeth personél Cydnerthedd Cenedlaethol Cymru, a gall ymateb i gefnogi criwiau gweithredol mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau.



Mae Tîm USAR Cymru yn cynnwys personél o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC), gyda chefnogaeth personél Cydnerthedd Cenedlaethol Cymru, a gall ymateb i gefnogi criwiau gweithredol mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau.

Mae'r digwyddiadau hyn yn cynnwys:

  • Chwilio am berson sydd ar goll
  • Achub mewn mannau cyfyng, gan gynnwys strwythurau sydd wedi cwympo neu sydd ddim yn ddiogel
  • Achub o uchder
  • Ymateb i lifogydd lleol a chenedlaethol
  • Achub o ddŵr
  • Achub anifeiliaid
  • Dihalogi anafiadau torfol





Mae Tîm USAR Cymru wedi'i leoli yng Nghanolfan Cydnerthedd Cenedlaethol Cymru yng Ngorsaf Dân yr Eglwys Newydd a Chanolfan Hyfforddiant Tân Earlswood GTACGC, ac mae’n un o'r 20 Tîm USAR sydd wedi'u lleoli’n strategol ledled Cymru a Lloegr. Fe’u darperir o dan Raglen Dimensiwn Newydd Llywodraeth y DU.

Mae gan Dîm USAR Cymru amrywiaeth o sgiliau, asedau a cherbydau i gynorthwyo ag ymateb i ddigwyddiadau, gan gynnwys uned cŵn, technegau gosod ategion, dronau a mwy.

Mae Tîm USAR Cymru ar alwad 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn i ymateb i ddigwyddiadau a thrychinebau ledled y DU, i ddarparu gwasanaeth chwilio ac achub ac i gefnogi ymdrechion dyngarol.

Cliciwch yma i gysylltu â Thîm USAR Cymru am fwy o wybodaeth.