
Mae Diffoddwyr Tân Gorsaf Dân y Gelli Gandryll yn gwahodd y gymuned leol i ymuno â nhw am ‘Baned gyda’r Criw’, ddydd Llun, Awst 17eg, rhwng 6.30 a 8.30yh.
Mae yna groeso i bawb rannu paned a chacen o amgylch y bwrdd bwyta, cael taith o’r Orsaf Dân a chael gweld y cerbydau gweithredol.
Bydd cyfle hefyd i ddysgu mwy am ddod yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad ac archwilio'r cyfleoedd gyrfa gwerth chweil sydd ar gael yn yr Orsaf Dân.
Mae Paned gyda’r Criw yn ddigwyddiad am ddim, gyda chroeso i roddion tuag at Elusen y Diffoddwyr Tân.
Lleoliad: Gorsaf Dân Y Gelli Gandryll, Heol Aberhonddu, Y Gelli Gandryll, Powys, HR3 5DY