Beicwyr Modur



Yma yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, mae diogelwch ar y ffordd yn amcan o’r pwys mwyaf. Trwy amryw o gynlluniau, mae beicwyr modur yn rhan o ddiogelwch ar y ffordd yr ydym yn ei thargedu fel blaenoriaeth, gan fod yr ystadegau’n dangos eu bod yn un o’r cerbydau mwyaf anniogel ar y ffordd.​



Biker Down! Cymru

Pan fydd beiciwr yn cael damwain, mae fel arfer yn wir mai beiciwr arall fydd y person cyntaf i gyrraedd lleoliad y ddamwain am fod beicwyr yn tueddu i reidio mewn grwpiau neu barau. Nod y cwrs Biker Down! yw lleihau nifer y beicwyr modur sy'n cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol mewn damweiniau ffordd. Caiff ei gyflwyno gan Ddiffoddwyr Tân Gweithredol/Dîm Beiciau Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Mae'r cwrs yn cynnwys tri modiwl:

Rheoli Lleoliad Damwain
Cymorth Cyntaf
Gwyddor Cael eich Gweld

Bydd y cwrs yn rhoi i'r cyfranogwyr well dealltwriaeth o'r hyn y dylid ei wneud os byddant yn dod ar draws gwrthdrawiad traffig ffyrdd, a sut i'w reoli mewn modd diogel.

Faint y mae'r cwrs yn ei gostio?
Diolch i gyllid Grant Diogelwch ar y Ffyrdd gan Lywodraeth Cymru, mae'r cwrs yn RHAD AC AM DDIM. Pan fyddant wedi cwblhau'r cwrs, bydd y cyfranogwyr yn cael cit cymorth cyntaf am ddim.

I ddarganfod pryd a ble y cynhelir y cwrs Biker Down! nesaf yn eich ardal chi, cysylltwch â'r Rheolwr Diogelwch ar y Ffyrdd.

Y Rheolwr Gorsaf Spencer Lewis
E-bost: s.lewis@mawwfire.gov.uk
Ffôn: 0370 60 60 699 

COVID-19: Ar hyn o bryd, rydym yn chwilio am ffyrdd amgen o gyflwyno'r cwrs Biker Down! gan gynnal pellter cymdeithasol ar yr un pryd. Dewch 'nôl cyn hir!

Cynhelir y cynllun hwn mewn canolfannau ymgynnull beicwyr, a nodwyd ar lwybrau beicwyr poblogaidd yng Nghymru. Ynghyd ag amryw o bartneriaid, rydym yn ymgysylltu, yn addysgu ac yn trafod ymagweddau’r beicwyr “sydd mewn perygl”. Bwriad y cynllun yw goresgyn y rhwystrau a llywio beicwyr tuag at raglen Beicio Diogel.

Caiff y Cynllun Beicio Diogel ei redeg gan Ddiogelwch Ffyrdd Cymru, y Gwasanaeth Tân a’r Heddlu, ac mae’n darparu teithiau asesu a gweithdai sgiliau gyrwyr.  Cynhelir y gweithdai ar safleoedd y Gwasanaeth Tân ac Achub ac maent yn amrywio o sesiwn hanner diwrnod i gwrs deuddydd cyfan, ei bwrpas yw darparu cynllun gweithredu ledled y wlad, i leihau’r nifer o bobl sy’n cael eu hanafu mewn damweiniau beic modur, trwy hybu gyrru’n fwy diogel.

Mae'r gweithdy Beicio Diogel yn archwilio'r prif faterion sy'n wynebu beicwyr heddiw. Mae hefyd yn archwilio egwyddorion uwch beicio modur trwy'r elfen ar y ffordd. Bydd un o Arsylwyr Beicio Diogel yn darparu asesiad ac adborth a fydd yn tynnu sylw at feysydd y mae angen i'r beiciwr eu datblygu. 

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn darparu arsylwyr o'i dîm Beiciau Tân i gynorthwyo â chyrsiau Beicio Diogel ac yn darparu mannau cynnal ar gyfer y cynllun hefyd.

Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda'n partneriaid o Ddiogelwch Ffyrdd Cymru i ddarparu'r rhaglen bwysig hon ynghylch diogelwch beiciau modur



​Beiciau Tân

Mae dros 22% o’r holl farwolaethau sy’n digwydd ar Ffyrdd Cymru yn ymwneud â Beicwyr Modur. Er mwyn lleihau’r nifer o farwolaethau ac anafiadau ymhlith beicwyr modur a’u teithwyr, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi prynu dau feic modur o fanyleb yr Heddlu, ac mae wedi ffurfio tîm Beicio Diogel.

​Er mwyn gwella diogelwch ar ffyrdd Cymru gyda'n partneriaid, byddwn yn:

  • Darparu rhwystrau gweladwy ar y ffordd a fydd yn annog pobl i beidio goryrru a gyrru’n beryglus​.
  • Defnyddio mannau ymgynnull amlwg a gweithio’n agos gyda’r beicwyr modur.
  • Mynychu sioeau beics a rasys beics.
  • Hyrwyddo cyrsiau gyrru beic modur uwch​.



Beth yw’r 5 Angheuol?

Fatal Five

  • Gyrru’n Ddiofal
  • Gyrru dan Ddylanwad Alcohol a Chyffuriau
  • Methu â gwisgo Gwregys Diogelwch
  • Defnyddio Ffôn Symudol (neu Ddyfais Llywio â Lloeren)
  • Goryrru