O dan Reoliadau Cemegol (ewch i safle we HSE am fwy o manylion, safle we Saesneg yn agor yn ffenest / tab newydd) rhaid i chi ddweud wrth bobl ar eich fferm, gan gynnwys gweithwyr, diffoddwyr tân a phersonél eraill y gwasanaethau brys, os oes posibilrwydd bod sylweddau peryglus yn gysylltiedig â thân.
Bydd angen iddynt wybod lleoliad unrhyw:
- Nwy potel, yn enwedig asetylen a LPG, a swmp disel neu betrol.
- Slyri ac unrhyw wastraff anifeiliaid arall.
- Drylliau ac arfau rhyfel.
- Asbestos yn y deunyddiau y mae'r adeiladau wedi'u gwneud ohonynt.
- Gwrteithwyr, cloridau sodiwm, plaladdwyr neu unrhyw agrocemegion a gwenwynau eraill.
- Dylech allu darparu taflenni data diogelwch deunydd ar gyfer yr holl gemegau a ddefnyddir ar eich fferm.
Sylweddau peryglus

Os oes tân ar eich fferm mae'n hanfodol ein bod ni'n gwybod lleoliad y sylweddau canlynol. Ystyriwch ychwanegu eu lleoliad i'ch Blwch Tân.
Mae sylweddau peryglus yn cynnwys:
- Nwy Cywasgedig
- Asiantau ocsidio
- Hylifau fflamadwy
- Sylweddau gwenwynig
- Sylweddau cyrydol a
- Llygryddion amgylcheddol