Cânt eu hasesu fel y gellir dod o hyd i raglen addas. Mae gweithio gyda chynnwyr tanau wedi profi’n effeithiol, ac mae’r atborth a dderbyniwyd wedi bod yn bositif iawn, gyda chanran fach yn unig angen eu cyfeirio at raglen arall.
Anelir Addysg Ymwybyddiaeth o Dân i Blant (FACE) at blant iau, sy’n dangos diddordeb afiach mewn tân. Mae’n cynnwys un neu ddau o ymweliadau ac fel arfer caiff ei gynnal yn y cartref, fel y gellir cyfleu negeseuon diogelwch rhag tân i’r rheini hefyd, ac mae Archwiliad Diogelwch Rhag Tân yn y Cartref yn cael ei gynnal. Fel arfer, mae larymau mwg ychwanegol yn cael eu gosod yn yr ystafelloedd gwely.
Anelir rhaglen SAFE at Blant a Phobl Ifanc dros 10 oed, sydd â hanes o gynnau tanau. Gellir eu cyfeirio o’r cynllun FACE, os nad yw’r ymyrraeth hwnnw wedi gweithio a bod angen gwneud mwy o waith. Mae hyn yn digwydd yn yr orsaf dân fel arfer.
Mae ‘Firesafe’ yn rhaglen 10 wythnos, un sesiwn yr wythnos, a anelir at gynnwyr tanau mwy difrifol, neu Blant a Phobl Ifanc sydd ag anawsterau dysgu. Derbynnir atgyfeiriadau oddi wrth y Tîm Troseddwyr Ifanc a/neu’r Heddlu, a gall fod yn rhan o’u gorchymyn llys. Cynigir Firesafe cyn cyrraedd y cam hwn yn rhai achosion.
Mae pob sesiwn yn para tua 1 – 1 ½ awr, a byddant yn cynnwys:
- Ymwybyddiaeth o dân
- Y Canlyniadau
- Ymwybyddiaeth o’r dioddefwr
- Ymddygiad dynol mewn tân
- Datrys problemau
Yn dilyn ymyrraeth, mae rhai Plant a Phobl Ifanc yn cael eu cyfeirio at y diffoddwyr tân ifanc pan eu bod wedi stopio’r ymddygiad hwn.