Addysg



Ein nod yw ymgysylltu â Phlant a Phobl Ifanc a meithrin ymwybyddiaeth o bwysigrwydd cadw'n ddiogel.



Mae ein hamcanion yn galluogi plant a phobl ifanc i:

  • Nodi peryglon tân yn y cartref ac o amgylch y cartref.

  • Deall pwysigrwydd profi larymau mwg.

  • Trafod llwybrau dianc rhag tân â'u rhieni, a'u cynllunio. ​

  • Cael eu grymuso i wrthsefyll pwysau cyfoedion mewn perthynas â throseddau tân, er enghraifft cynnau tanau bwriadol a gwneud galwadau tân ffug.

  • Archwilio rolau a chyfrifoldebau'r Gwasanaeth Tân yng Nghymru trwy ein prosiectau Bagloriaeth Cymru. 



Rydym yn darparu amrywiaeth o negeseuon diogelwch i asiantaethau:  

  • Dechrau'n Deg 
  • Cylchoedd Meithrin 
  • Llyfrgelloedd 
  • Ysgolion Cynradd ac Uwchradd 
  • Yr Afancod, y Brownis, y Cybiau, y Sgowtiaid, y Geidiaid, Pony Clubs 
  • Addysg Bellach ac Addysg Uwch 

 

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch â:

Gwenda Jenkins
Ymgynghorydd Addysg
Pencadlys Diogelwch yn y Gymuned
Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
Heol Llwyn Pisgwydd
Caerfyrddin SA31 1SP​

Ffôn: 0370 60 60 699​
e-bost: gwenda.jenkins@mawwfire.gov.uk​