Gofynion Ffitrwydd ar gyfer Diffoddwyr Tân Amser Cyflawn



Asesiadau Corfforol ac Ymarferol

Mae bod yn ddiffoddwr tân yn gallu bod yn waith corfforol heriol a pheryglus. Er mwyn sicrhau eich bod yn gweithredu mewn ffordd sy’n ddiogel ac yn effeithiol, rhaid i chi gael lefel briodol o ffitrwydd corfforol.

Bydd lefel eich ffitrwydd corfforol yn cael ei bennu drwy fesur eich perfformiad mewn nifer o dasgau diffodd tân corfforol ac ymarferol a nodir isod.



Asesiad Ffitrwydd - Prawf Peiriant Rhedeg Chester

Os byddwch yn llwyddo yn y cam Dethol, byddwn yn asesu eich ffitrwydd aerobig. O wneud hyn, gallwn asesu eich gallu i wneud ymarfer corff dros gyfnodau hirach, sy'n bwysig ar gyfer diffodd tanau’n ddiogel.

Mae'r prawf hwn yn brawf cerdded/rhedeg graddedig 12 munud o hyd yn ddefnyddio peiriant rhedeg. Fe’i cynlluniwyd i asesu a ydych yn cyrraedd y safon sylfaenol a argymhellir o ran gallu aerobig (42.3 mlsO2/kg/mun) i fod yn ddiffoddwr tân gweithredol.

Mae youtube.com wedi'i rwystro oherwydd eich dewisiadau cwci cyfredol, gallwch newid y rheini trwy glicio ar y botwm cwci yn y gornel dde isaf ar unrhyw dudalen.

Mae youtube.com wedi'i rwystro oherwydd eich dewisiadau cwci cyfredol, gallwch newid y rheini trwy glicio ar y botwm cwci yn y gornel dde isaf ar unrhyw dudalen.



Profion Gallu

Dringo Ysgol

Tynnu Ysgol

Symud unigolyn wedi’i anafu

Codi Ysgol

Gosod Cyfarpar

Llwybr Cropian

Cario Cyfarpar



Fel rhan o'r Asesiad Corfforol, bydd gofyn i chi hefyd gwblhau Prawf Affinedd Dŵr ac Asesiad CPR, y manylir arnynt isod.



Prawf Hyder Dŵr

Mae diffoddwyr tân yn ymateb i ddigwyddiadau dŵr a llifogydd fel rhan o'r ddyletswydd statudol. Fel rhan o’r asesiad ffitrwydd, bydd ymgeiswyr yn cael eu hasesu mewn pwll nofio i brofi eu hyder wrth weithredu mewn dŵr.

Bydd y prawf yn cynnwys:

  • Prawf Nofio – Bydd rhaid i bob ymgeisydd nofio 25m (cropian blaen). Ni fydd cyfyngiad ar amser.
  • Hunan-Achub – Bydd angen i bob ymgeisydd i fynd i mewn i’r dŵr o blatfform ddim mwy na 2m uwchben lefel y dŵr. Yna bydd gofyn iddynt nofio 10m wrth drafod rhwystrau drwy nofio heibio iddynt is law wyneb y dŵr.

Darperir dyfais arnofio bersonol i’w defnyddio drwy gydol y prawf.



Asesiad CPR

Mae diffoddwyr tân yn ymateb i ddigwyddiadau meddygol fel rhan o'u rôl. Bydd ymgeiswyr yn cael eu hasesu ar Adfywio Cardio-pwlmonaidd (CPR) i bennu eu hyder wrth wneud y gweithgaredd.

Bydd y prawf yn gofyn i ymgeiswyr:

  • Galw am help
  • Dwylo ar y frest a'r geg i'r geg cymhareb 30:2

Mae youtube.com wedi'i rwystro oherwydd eich dewisiadau cwci cyfredol, gallwch newid y rheini trwy glicio ar y botwm cwci yn y gornel dde isaf ar unrhyw dudalen.