Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn gyfrifol am ddarparu gwybodaeth am ddiogelwch y cyhoedd, rhaglenni atal ac amddiffyn, a gwasanaeth ymateb brys ar gyfer Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Rydym yn cyflogi dros 1,350 o aelodau staff ac yn gwasanaethu bron 12,000 cilomedr sgwâr - bron i ddwy ran o dair o Gymru.
Gellir rhannu gwaith Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru gyda Phlant a Phobl Ifanc yn bedwar maes gwahanol, sef: Cadetiaid Tân, Ffenics, Addysg a Chyneuwyr Tanau.
Mae gweithio i'r Gwasanaeth Tân ac Achub yn rôl uchel ei pharch yn y gymuned. Rydym yn dibynnu ar dîm o bobl sydd â chymysgedd o sgiliau a phrofiad i ddarparu gwasanaeth rheng flaen effeithiol a gwneud ein rhanbarth yn fw...
Mae Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn eich annog i fod yn ymwybodol o beryglon tanau gwyllt dros dymhorau’r gwanwyn a'r haf #doethidanaugwyllt.
Mae gweithio i'r gwasanaeth tân ac achub yn rôl uchel ei pharch yn y gymuned. Rydym yn dibynnu ar dîm o bobl sydd â chymysgedd o sgiliau a phrofiad i ddarparu gwasanaeth rheng flaen effeithiol a gwneud ein rhanbarth yn fwy diogel rhag tân.
Dweiswch eich iaith : Choose your language:
02.10.2026 by Angharad Massow
Wrth i Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ddathlu ei ben-blwydd yn 30 oed eleni, mae cymunedau'n cael eu gwahodd i helpu i siapio dyfodol y Gwasanaeth drwy gymryd rhan yn ei arolwg Llunio Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Gyda’n Gilydd.
02.10.2026 by Steffan John
Mae Gorsaf Dân Rhydaman wedi trawsnewid ardal y tu allan i’w gorsaf yn ardd les ffyniannus gan greu gofod croesawgar lle gall criwiau ymlacio, cysylltu â natur a mwynhau manteision tyfu eu ffrwythau, eu llysiau a'u blodau eu hunain.
Categorïau:
30.09.2026 by Steffan John
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn falch o gyhoeddi bod 33 o Becynnau Rheoli Gwaedu Critigol wedi'u gosod mewn cypyrddau Diffibrilwyr Mynediad Cyhoeddus yng Ngorsafoedd Tân ar draws ardal y Gwasanaeth.
29.09.2026 by Rachel Kestin
Mae Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn galw ar ffermwyr, tirfeddianwyr a chymunedau gwledig ledled Cymru i chwarae eu rhan wrth leihau’r risg o danau gwyllt yn y dyfodol, wrth iddo lansio ei ymgyrch #LlosgiIAmddiffyn flynyddol.
Yn ddiweddar, cafodd Gorsaf Dân y Cymer sied llesiant awyr agored newydd diolch i Brosiect Seilwaith Gwyrdd ar y cyd â Chyngor Castell-nedd Port Talbot.
22.09.2026 by Steffan John
Bydd Tommy Hatton, un o Ddiffoddwr Tân Gorsaf Dân Crucywel, yn ceisio cwblhau'r her gan wisgo ei holl git tân er mwyn anrhydeddu'r rhai a fu farw ar 9/11 ac i gasglu arian ar gyfer Elusen y Diffoddwyr Tân.
21.09.2026 by Rachel Kestin
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yn cefnogi wythnos Ddiogelwch Tân i Fyfyrwyr (21-27 Medi) drwy annog myfyrwyr i ystyried diogelwch tân yn eu llety newydd.
18.09.2026 by Steffan John
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yn dathlu gwaddol deuluol ryfeddol yng Ngorsaf Dân Llandrindod, lle mae tri thad yn gwasanaethu ochr yn ochr â'u meibion fel Diffoddwyr Tân Ar Alwad.
Ddydd Gwener, Medi 18fed, daeth mwy na 60 o aelodau staff Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ynghyd i gymryd rhan mewn Taith Gerdded Lles ar hyd rhan o Lwybr Dyffryn Tywi, sy'n cynnig golygfeydd hardd.