Mae Adroddiad Blynyddol cyntaf Sir Benfro yn amlinellu’r gwaith y mae partneriaid PSB wedi ei gyflawni yn ystod y 12 mis diwethaf tuag at gyflawni ei 'dyletswydd llesiant’ i wella lles economaidd, amgylcheddol, diwylliannol a chymdeithasol pobl a chymunedau yn Sir Benfro, yn awr ac i’r dyfodol.  

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn annog pawb i roi diogelwch ar frig eu rhestr blaenoriaethau y gaeaf hwn. Nod ymgyrch ddiogelwch y gaeaf yw meithrin ymwybyddiaeth o'r risgiau sy'n bresennol yn y cartref ac ar y ffyrdd yn ystod misoedd y gaeaf, a darparu cyngor ymarferol ar gadw'n gynnes mewn modd diogel yn ystod y tymor hwn.