Am 8.34am ddydd Llun, 2 Mawrth, ymatebodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Llandeilo a Chaerfyrddin i ddigwyddiad yn Esgair Wen, Cwmdu, Llandeilo.
Ymatebodd y criwiau i geffyl 27 oed o'r enw Floss a oedd wedi syrthio yn ei stabl, gyda'i choesau cefn mewn stâl a'i choesau blaen allan o'r stâl.
Defnyddiodd criwiau orchudd trosglwyddo, llinell gyffredinol a slingiau rhaff i ryddhau Floss a gyda chymorth ffermwr lleol a'i dractor fe wnaethon nhw osod Floss ar 4 bêl gwair nes iddi allu sefyll ar ei phen ei hun.
Gyda chymorth Holly Thomas o Cotts Equine Vets, gweithiodd y criwiau gyda'i gilydd i achub Floss yn llwyddiannus.
Gadawodd y criw y safle am 11.27am.