08.04.2026

Digwyddiad: Tân yng Nghefn Bryn yng Ngŵyr

Ddydd Mawrth, Ebrill 7fed, galwyd y criwiau o Orsafoedd Tân Gorllewin Abertawe, Gorseinon, Treforys, Llanelli, Tre Rheinallt, Port Talbot a Phontarddulais i ddigwyddiad yng Nghefn Bryn yng Ngŵyr.

Gan Steffan John



Am 10.47yb, ddydd Mawrth, Ebrill 7fed, galwyd y criwiau o Orsafoedd Tân Gorllewin Abertawe, Gorseinon, Treforys, Llanelli, Tre Rheinallt, Port Talbot a Phontarddulais i ddigwyddiad yng Nghefn Bryn yng Ngŵyr.

Ymatebodd y criwiau i dân yn effeithio ar tua 120 hectar o laswelltir.  Defnyddiodd y criwiau curwyr, chwythwyr a sachau cefn tanau gwyllt a chwistrelli olwyn piben i reoli a diffodd y tân.  Bu’r tancer dŵr o Orsaf Dân Port Talbot yn gefnogaeth i’r criwiau.

Bu’r digwyddiad yn arbennig o heriol i griwiau gan fod amodau gwyntog wedi rhwystro eu cynnydd a chyfrannu at ymddygiad tân anrhagweladwy, tra bod y tywydd cynnes a hyd y digwyddiad wedi cynyddu'r gofynion corfforol ar Ddiffoddwyr Tân.  Gadawodd y criwiau olaf am 5.32yp.



Doeth i Danau Gwyllt

Ar yr adeg hon o'r flwyddyn, gall glaswellt a llethrau mynyddoedd sychu'n gyflym. Gall hyd yn oed gwreichionen fach - damweiniol neu fwriadol—droi’n dân sy'n symud yn gyflym ac sy'n gallu dinistrio cynefinoedd, tirweddau, a chartrefi o fewn munudau.

Mae Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn annog pawb i fod yn #DoethiDanauGwyllt trwy ddilyn ein cyngor diogelwch syml, ymarferol. Gall ychydig bach o ofal ychwanegol wneud gwahaniaeth enfawr, gan helpu i amddiffyn ein cefn gwlad syfrdanol a chadw cymunedau'n ddiogel rhag effaith ddinistriol tanau gwyllt.

Yn 2025, ymatebodd y gwasanaethau tân ledled Cymru i 3,474 o ddigwyddiadau tanau glaswellt - cynnydd o 275% ar y flwyddyn flaenorol.  Yn fwyaf pryderus, cododd tanau glaswellt bwriadol i 2,357 o ddigwyddiadau, cynnydd o 1,694 o danau (i fyny 256%). Mae hyn yn cynrychioli'r nifer uchaf o danau glaswellt ers 2018.

Darllenwch fwy am Fwrdd Tanau Gwyllt Cymru yma a dysgwch sut y gallwn weithio gyda'n gilydd er mwyn diogelu ein cefn gwlad a'n cymunedau rhag effaith ddinistriol tanau gwyllt.





Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf