Ddydd Mawrth, Ebrill 23, dechreuodd confoi o offer a cherbydau achub bywyd y gwasanaethau tân ac achub, wedi’i gydlynu gan Fire Aid, ar ei daith i Wcráin i ddanfon yr offer hanfodol hwn i Ddiffoddwyr Tân yn Wcráin.
Roedd maint y confoi yn ddigynsail, gan ei fod yn cynnwys 33 o gerbydau tân ac achub, dau gerbyd peirianwyr a dros 2,800 o ddarnau o offer a roddwyd gan Wasanaethau Tân ac Achub y DU ac a gefnogwyd gan y Swyddfa Gartref. Gan weithio gyda Fire Aid, mae Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru a Lloegr wedi cyfrannu’r holl beiriannau, cit ac offer, sy'n cynnwys ysgolion, setiau cyfarpar anadlu, cychod, offer gwarchod personol tân a dŵr a chit gweithio’n ddiogel ar uchder. Cymerodd 100 o wirfoddolwyr, o’r Gwasanaethau Tân ac Achub a Fire Aid, ran yn y confoi.
Gwirfoddolodd naw aelod o bersonél Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu hamser i ddanfon tair injan dân ar ran y Gwasanaeth. Trefnwyd y confoi trwy bartneriaeth o 15 o Wasanaethau Tân ac Achub y DU, sy'n cynnwys pob un o'r tri GTA yng Nghymru, yn ogystal â Chyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân, Cydnerthedd Cenedlaethol, y Swyddfa Gartref, Fire Aid, a Chymdeithas y Diwydiant Tân.
Dywedodd Dirprwy Brif Swyddog Tân GTACGC, Iwan Cray: