Ar Fehefin 1, ymgasglodd Diffoddwyr Tân o bob rhan o'r Deyrnas Unedig ym Marina Abertawe i gymryd rhan yn Her Diffoddwyr Tân Cymru, sy'n rhan o ras ranbarthol Her Diffoddwyr Tân Prydain.
Mae Her Diffoddwyr Tân Cymru yn cael ei threfnu gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC), ac mae’n helpu i godi arian pwysig ar gyfer Elusen y Diffoddwyr Tân, sy'n cefnogi lles meddyliol ac iechyd corfforol yr holl aelodau o gymuned diffoddwyr tân y DU sy'n gwasanaethu ac sydd wedi ymddeol.
Cynhaliwyd y digwyddiad, a oedd wedi gwerthu allan mewn 8 awr, sef yr amser cyflymaf erioed, mewn lleoliad newydd eleni, sef Sgwâr Dylan Thomas, Marina Abertawe. Roedd y Sgwâr yn llawn o wylwyr o'r dechrau i'r diwedd trwy gydol y dydd. Yn ffodus, roedd yr haul yn tywynnu, a oedd yn ei gwneud yn wych i wylwyr ond hefyd yn llawer mwy anodd i'r cystadleuwyr.
Roedd pob cystadleuydd wedi'i wisgo mewn cit diffodd tân strwythurol llawn ac yn cymryd rhan mewn cyfres o heriau corfforol a gynlluniwyd i brofi eu cryfder, eu hystwythder a'u stamina. Roedd cyfanswm o wyth her i'w cwblhau. Roedd hyn yn cynnwys rhedeg 50m, cario pibell am 50m, cario a chodi offer Gwrthdrawiad Traffig Ffyrdd (RTC), taro â morthwyl, rhedeg gyda phibell am 50m arall, rholio pibell i fyny, cario cynhwysydd, ac yn olaf, llusgo dymi. Yr amser cyflymaf i gwblhau pob un o'r wyth her oedd yn ennill y ras.