08.04.2026

Prif Swyddog Tân Cyntaf Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn Dychwelyd i Bencadlys y Gwasanaeth

Ddydd Iau, Ebrill 2ail, roedd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn falch o groesawu ei Brif Swyddog Tân cyntaf, Ronnie King OBE QFSM, i’w Bencadlys yng Nghaerfyrddin.

Gan Steffan John



Ddydd Iau, Ebrill 2ail, roedd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yn falch o groesawu ei Brif Swyddog Tân cyntaf, Ronnie King OBE QFSM, i’w Bencadlys yng Nghaerfyrddin.

Yn ystod ei ymweliad, gwnaeth Mr King cwrdd â Phrif Swyddog Tân presennol y Gwasanaeth, Craig Flannery, y ddau ohonynt yn wreiddiol o Swydd Efrog, i drafod y datblygiadau o fewn y Gwasanaeth Tân ac Achub, uchafbwyntiau eu gyrfaoedd ac arweinyddiaeth.

Mae Mr King wedi cael gyrfa nodedig, a ddechreuodd ym Mrigâd Dân Swydd Efrog ym 1961, cyn iddo symud ymlaen i wasanaethu yn Llundain, Fife, a’r Swyddfa Gartref, cyn dod yn Brif Swyddog Tân cyntaf GTACGC a ffurfiwyd yn Ebrill 1996.  Ffurfiwyd GTACGC yn dilyn uno tair brigâd dân blaenorol Dyfed, Powys a Gorllewin Sir Forgannwg.

Am ei gyfraniad i’r sector tân ac achub dros sawl blwyddyn, cyflwynwyd Medal Gwasanaeth Tân y Frenhines iddo ym 1984 ac OBE ym 1995.  Mae hefyd yn Gymrawd Sefydliad y Peirianwyr Tân.

Drwy gydol ei yrfa, mae Mr King wedi cyfuno arweinyddiaeth weithredol ag ymrwymiad gydol oes i wella deddfwriaeth a llywodraethu diogelwch rhag tân.  Drwy ei rôl yn Ysgrifennydd Gweinyddol Anrhydeddus a Chynghorydd Tân i’r Grŵp Diogelwch Rhag Tân ac Achub Seneddol Trawsbleidiol yn San Steffan, mae Mr King wedi cyfrannu at ymholiadau cenedlaethol allweddol a diwygiadau polisi yn dilyn digwyddiadau mawr fel tanau Tŷ Lakanal a Thŵr Grenfell.







30 Mlynedd o GTACGC

Roedd yr ymweliad yn rhan o ymgyrch flwyddyn o hyd i ddathlu 30 mlynedd o GTACGC.  Mae hyn nid yn unig yn cynnig cyfle i fyfyrio ar gyflawniadau’r Gwasanaeth, ond hefyd i gydnabod y bobl sydd wedi llunio’r daith.

Ers ei ffurfio ym 1996, mae'r Gwasanaeth wedi tyfu i fod yn un o'r sefydliadau tân ac achub mwyaf yn y DU, gan gwmpasu tirwedd eang ac amrywiol sy'n cynnwys cymunedau gwledig, trefi arfordirol, a chanolfannau trefol prysur.

Dros y blynyddoedd, mae ein timau wedi ymateb i filoedd o argyfyngau, wedi hyrwyddo addysg diogelwch tân, ac wedi addasu'n barhaus i heriau newydd gyda phroffesiynoldeb a gwydnwch.  Darllenwch fwy yma.

Erthygl Flaenorol