Ymunwch â'n criw – Dewch yn ddiffoddwr tân ar alwad yn Llandeilo!
Gwnewch wahaniaeth go iawn yn eich cymuned. Dewch yn Diffoddwr Tân Ar Alwad yng Ngorsaf Dân Llandeilo.
Rydyn ni’n recriwtio unigolion angerddol, sydd â meddylfryd cymunedol i ymuno â'n tîm ymroddedig. P'un ai ydych chi'n chwilio am her newydd, ffordd i roi rhywbeth yn ôl, neu gyfle i ddysgu sgiliau achub bywyd, dyma eich cyfle.
Pam Ymuno â Ni?
· Gwasanaethu Llandeilo a'r ardaloedd cyfagos gan gynnwys Bethlehem, Ffairfach, Carmel, Dryslwyn, Talyllychau, a Llangadog
· Ymateb i danau, argyfyngau meddygol, a mwy
· Gweithio gyda chriw agos, cefnogol
· Cael hyfforddiant llawn - nid oes angen profiad
· Mwynhau oriau hyblyg a buddion rhagorol