Adroddiad Blynyddol y Ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol 2024/2025



Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023

Mae Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023, a ddaeth i rym ar 01 Ebrill 2024, yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (ATACGC), fel corff cyhoeddus, gynhyrchu adroddiad blynyddol i ddangos sut maent wedi cydymffurfio â'r Ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol.

Mae'r adroddiad blynyddol yn crynhoi sut mae'r Awdurdod wedi cydymffurfio â'r ddyletswydd y mae'n rhaid ei gyflwyno i'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol (“CPG”) ar gyfer craffu. Mae Adran 18 o Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) yn nodi:

Adroddiadau Partneriaeth Gymdeithasol:

(1) Rhaid i gorff cyhoeddus lunio, mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol, adroddiad ynglŷn â’r hyn y mae wedi ei wneud i gydymffurfio â’r ddyletswydd.

(2) Rhaid cytuno ar yr adroddiad gydag undebau llafur cydnabyddedig y corff cyhoeddus neu (pan nad oes undeb llafur cydnabyddedig) gynrychiolwyr eraill ei staff, neu rhaid i’r adroddiad gynnwys datganiad yn egluro pam na chytunwyd arno.

(3) Rhaid i’r corff cyhoeddus gyhoeddi’r adroddiad, a’i gyflwyno i’r CPG, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol.

Mae'r adroddiad blynyddol ar y Ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol yn crynhoi'r camau a gymerwyd gydag undebau llafur cydnabyddedig yr Awdurdod i weithredu'r Ddyletswydd.