Mewn blynyddoedd blaenorol, mae’r Gwasanaeth wedi cynhyrchu dau Gynllun, sef, Cynllun Strategol pum mlynedd yn amlinellu Ymrwymiadau hirdymor y Gwasanaeth a Chynllun Gwella Busnes Blynyddol yn amlinellu Amcanion Gwella a Lles y Gwasanaeth. Mae’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu wrth wraidd popeth a wnawn ac yn cydnabod yr angen i gynllunio ar gyfer y tymor hwy y gwnaethom benderfynu adolygu ein trefniadau cynllunio, a’i ganlyniad oedd cyflwyno Cynllun Rheoli Risg Cymunedol (CRMP) 2040. Mae ein Cynllun Rheoli Risgiau Cymunedol yn tynnu sylw at sut rydym yn bwriadu mynd i’r afael â’r risgiau, y bygythiadau a’r heriau sy’n wynebu ein cymunedau a sut yr ydym yn bwriadu eu hwynebu a’u lleihau, gan sicrhau bod ein hasedau a’n hadnoddau yn cael eu defnyddio’n llwyddiannus, gan ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
Bydd defnyddio data i nodi unrhyw risgiau a heriau canfyddedig yn ein cymunedau yn ein helpu i deilwra ein gwasanaethau’n briodol a lleihau’r risgiau hynny trwy’r gwasanaethau a ddarparwn, trwy roi mwy o ffocws ar sut rydym yn cyflawni ein swyddogaethau atal, amddiffyn ac ymateb. Bydd y gwaith hwn hefyd yn ein galluogi i dargedu ein hadnoddau i atal digwyddiadau, gan sicrhau hefyd bod ein hadnoddau yn y lleoliadau cywir i ddiogelu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu orau pe bai argyfwng.
At hynny, bydd trefniadau monitro a gwerthuso effeithiol yn ein galluogi i gynllunio ein gweithgarwch yn y dyfodol, gwella diogelwch y cyhoedd a lleihau difrifoldeb y digwyddiadau rydym yn eu mynychu. Byddwn hefyd yn canolbwyntio ar ein diben cyfreithlon, deall anghenion ein cymunedau, a lliniaru effaith argyfyngau ar y bobl sy’n byw, gweithio a theithio drwy ganolbarth a gorllewin Cymru.