Rheolau’r Cyfryngau Cymdeithasol

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i rannu diweddariadau, gwybodaeth am ddiogelwch ac ymgysylltu â'n cymunedau.



Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i rannu diweddariadau, gwybodaeth am ddiogelwch ac ymgysylltu â'n cymunedau.

Sylwer:

  • Dim ond o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 5pm y caiff ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol eu monitro.
  • Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob tro
  • Ar gyfer ymholiadau nad ydynt yn argyfwng ac ymholiadau'r wasg, defnyddiwch ein gwefan neu cysylltwch â ni'n uniongyrchol


Rheoli ein Sianeli

Mae ein cyfrifon corfforaethol yn cael eu rheoli gan ein Tîm Cyfathrebu.

Efallai y bydd rhai Gorsafoedd Tân ac adrannau yn gweithredu eu cyfrifon cyfryngau cymdeithasol eu hunain, sy'n cael eu monitro'n llai aml.

Ein nod yw ymateb cyn gynted â phosibl, ond efallai y bydd rhai ymholiadau yn cymryd mwy o amser neu angen eu trosglwyddo i'r adran berthnasol.



Ein Dull Gweithredu

Rydym am i'n sianeli cyfryngau cymdeithasol fod yn fannau diogel, parchus ac addysgiadol.

Rydym yn croesawu:

  • Trafodaeth adeiladol
  • Cwestiynau am ein gwasanaethau
  • Ymgysylltiad cadarnhaol â'n cynnwys


Rheolau

Gofynnwn i ddefnyddwyr beidio â phostio:

  • Iaith sarhaus, bygythiol neu amhriodol
  • Ymosodiadau personol, bwlio neu aflonyddu
  • Sylwadau gwahaniaethol yn erbyn unrhyw unigolyn neu grŵp
  • Gwybodaeth gamarweiniol neu ffug
  • Cynnwys sy'n anghyfreithlon neu'n torri hawlfraint
  • Sylwadau ailadroddus, nad yw’n ymwneud â’r pwnc neu sy'n fwriadol bryfoclyd
  • Cynnwys hyrwyddo neu fasnachol

Gellir tynnu postiadau neu sylwadau sy'n dod o dan y categorïau hyn heb rybudd.




Rydym yn cadw'r hawl i:

  • Dynnu sylwadau
  • Analluogi gwneud sylwadau lle bo angen
  • Blocio neu riportio defnyddwyr sy'n torri'r rheolau hyn dro ar ôl tro

Ni fyddwn yn ymgysylltu â nac yn ymateb i negeseuon bygythiol

Lle gallai cynnwys dorri cyfraith y DU, efallai y byddwn yn ei gyfeirio at yr awdurdodau priodol.

Mae defnyddwyr yn gyfrifol am y cynnwys maen nhw'n ei bostio.

Nid yw sylwadau a wneir gan aelodau o'r cyhoedd o reidrwydd yn adlewyrchu barn GTACGC.

Rydym yn croesawu adborth am ein gwasanaeth.

  • Mae canmoliaeth yn ein helpu i gydnabod gwaith da a rhannu adborth cadarnhaol gyda'n staff
  • Mae sylwadau yn ein helpu i wella a datblygu'r hyn a wnawn
  • Mae cwynion yn ein helpu i ddeall pan nad yw pethau wedi bodloni disgwyliadau

Os ydych chi'n anfodlon ag unrhyw agwedd ar ein gwasanaeth, rydym yn eich annog i gysylltu â ni trwy ein proses ffurfiol.

Ein nod yw:

  • Ymchwilio i gwynion yn deg ac yn llawn
  • Delio â nhw cyn gynted â phosibl
  • Gwneud yn siŵr eu bod yn cael eu trin yn gwrtais ac yn broffesiynol

Yn aml, gellir datrys pryderon yn gyflym, ond lle bo angen byddwn yn cynnal ymchwiliad llawn.

Gallwch ddod o hyd i fanylion llawn am sut i roi adborth neu wneud cwyn yma: Canmoliaeth, Sylwadau a Chwynion



Ein Cyfrifon Swyddogol

I sicrhau eich bod yn ymgysylltu â sianeli swyddogol GTACGC, dilynwch y canlynol:



Adrodd am Cryderon ar y Cyfryngau Cymdeithasol

Os ydych chi'n gweld cynnwys ar ein sianeli sy'n torri'r canllawiau hyn:

  • Rhowch wybod amdano drwy'r platfform cyfryngau cymdeithasol, a/neu
  • Cysylltwch â ni'n uniongyrchol trwy ein gwefan

 

Gallwn ddiweddaru'r rheolau hyn ar unrhyw adeg.