
Bydd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru'n cynnal Diwrnod Profiad Diffoddwr Tân, ddydd Sadwrn, Mai 31ain, rhwng 10yb a 2yp.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth ymateb brys i bron i 12,000 cilomedr sgwar – bron i ddwy rhan o dair o Gymru. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth a’ch cymuned - mae 75% o'n gorsafoedd tân yn cael eu criwio'n gyfan gwbl gan Ddiffoddwyr Tân Ar Alwad.
Os ydych chi erioed wedi ystyried dod yn ddiffoddwr tân, mae mynychu Diwrnod Profiad yn ffordd wych o’ch helpu i wneud penderfyniad gwybodus cyn mynd ati i wneud cais.
Yn ystod y sesiwn, cewch gyfle i wisgo dillad diffodd tân, dysgu sut i roi offer at ei gilydd a chymryd rhan mewn ymarfer ymarferol. Bydd criw Gorsaf Dân Llanfyllin hefyd wrth law i ateb unrhyw gwestiynau a rhoi cipolwg ar fywyd fel Diffoddwr Tân.
Bydd ein Diwrnod Profiad Diffoddwr Tân yn cynnwys:
- rôl diffoddwr tân modern
- gwisgo cit a chyfarpar diffodd tanau amdanoch
- gwahanol agweddau'r broses recriwtio
- pwysigrwydd ffitrwydd a chynnal ffitrwydd
- y gwahanol fathau o gyfarpar a chyfarpar diogelu personol
- llwybrau gyrfa a mapiau rolau
Mae'n rhaid archebu ymlaen llaw. I archebu eich lle, ewch yma os gwelwch yn dda.