Alcohol a pheryglon dŵr



Gall awr hapus droi'n hunllef mewn eiliadau. Mae ffigurau'n dangos bod alcohol yn llif gwaed tua chwarter yr holl oedolion sy'n boddi. Os ydych wedi cael diod, cadwch draw o'r dŵr.



  • Peidiwch â cherdded adref yn agos i ddŵr, gallech gwympo i mewn
  • Gofalwch am eich ffrindiau, gwnewch yn siŵr eu bod yn cyrraedd adref yn ddiogel
  • Peidiwch â mynd i'r dŵr os ydych wedi bod yn yfed
  • Mae alcohol yn cael effaith ddifrifol ar eich gallu i gael eich hun allan o drafferth
  • Dim ond mynd â’r ci am dro​

  • Mae alcohol yn lleihau swildod, ac yn arwain at grebwyll diffygiol, sy'n golygu eich bod yn fwy tebygol o gymryd risgiau a mynd i drafferthion
  • Mae alcohol yn cyfyngu ar allu'r cyhyrau, sy'n gwneud symudiadau syml yn fwy anodd o lawer
  • Mae alcohol yn arafu eich ymatebion, sy'n ei gwneud yn fwy anodd i chi gael eich hun allan o drafferth
  • Mae alcohol yn gwanhau'r synhwyrau, yn enwedig y golwg, y clyw a chyffwrdd, sy'n gwneud nofio'n anodd iawn

  • Beth bynnag y byddwch yn ei wneud a beth bynnag fydd eich gallu, gallwch gael eich dal ar unrhyw adeg gan ei bod yn hawdd iawn diystyru pŵer dŵr.
  • Cadwch yn ddiogel trwy sylwi'n gyflym ar y peryglon. Mae'n bosib eich bod yn gallu nofio'n dda mewn pwll nofio cynnes, dan do ond nid yw hynny'n golygu y byddwch yn gallu nofio yn nŵr oer y môr, afonydd, chwareli neu gronfeydd dŵr.
  • Peidiwch ag anwybyddu cyngor diogelwch, baneri arbennig ac arwyddion sy'n eich rhybuddio am beryglon. Gofalwch eich bod yn deall ystyr pob arwydd a'r hyn y mae'n dweud wrthych am ei wneud.
  • Peidiwch byth â nofio ar eich pen eich hun fel bod rhywun ar gael i chwilio am gymorth os byddwch mewn perygl mewn dŵr agored. Dylai plant fod yng nghwmni oedolyn bob amser.
  • Peidiwch byth â mynd i'r dŵr ar ôl bod yn yfed. Mae alcohol yn ffactor cyfrannol mewn llawer o ddigwyddiadau sy'n ymwneud â dŵr, gan ei fod yn amharu'n ddifrifol ar eich synnwyr cyffredin, eich ymateb a'ch gallu i nofio.
  • Mae pobl yn aml yn diystyru'r effaith y bydd mynd i ddŵr oer yn ei chael ar y corff. Mae pobl yn gallu boddi ar ôl cael sioc dŵr oer.
  • Pwyllwch am funud. Mae effeithiau cychwynnol dŵr oer yn cilio mewn llai na munud felly peidiwch â cheisio nofio ar unwaith.
  • Ymlaciwch ac arnofiwch ar eich cefn i gael eich gwynt atoch. Ceisiwch afael mewn rhywbeth a fydd yn eich helpu i arnofio.
  • Peidiwch â chynhyrfu a galwch am gymorth neu nofiwch at ddiogelwch y lan os gallwch wneud hynny.
  • Mae dŵr sy'n oerach na 15ᵒC yn ddŵr oer yn ôl y diffiniad ac mae'n cael effaith ddifrifol ar allu'r corff i anadlu yn ogystal â'i allu i symud.
  • A wyddech chi fod cyfartaledd tymheredd y môr yn y Deyrnas Unedig yn 12ᵒC yn unig? Mae afonydd yn oerach na hynny, hyd yn oed yn yr haf, ac mae sioc dŵr oer yn risg sylweddol am y rhan helaethaf o'r flwyddyn.
  • Mae cyn lleied â hanner peint o ddŵr yn yr ysgyfaint yn ddigon i achosi i oedolyn ddechrau boddi. Gofalwch gael gofal meddygol ar unwaith.
  • Mae cymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden ar lan y dŵr ac yn agos at y lan, yn hwyl fawr. Nid mater o atal ein cymunedau rhag mwynhau dyfrffyrdd y Deyrnas Unedig yw hyn, ond codi ymwybyddiaeth o'r risgiau posibl a'u hannog i gadw'n ddiogel.
  • Nid yw 50% o'r rhai sy'n boddi wedi disgwyl bod yn y dŵr.

  • Mae'n oer iawn a gallai achosi sioc dŵr oer neu hypothermia
  • Gall fod cerrynt cudd a allai wneud nofio'n ôl at y lan yn anodd.
  • Gall dringo allan o'r dŵr fod yn anodd, e.e. glannau serth a llithrig
  • Gall y dŵr fod yn ddyfnach nag y mae'n edrych a gall amcangyfrif dyfnder y dŵr fod yn anodd.
  • Gall fod sbwriel neu falurion cudd yn y dŵr, e.e. trolïau siopa, gwydr wedi torri, ac ati
  • Os byddwch yn nofio mewn afonydd, chwareli neu gronfeydd dŵr, ni fydd achubwyr bywyd wrth law i'ch helpu.
  • Gall y dŵr fod wedi'i halogi, gan achosi salwch.

  • Ffoniwch 999 a gofynnwch am y Gwasanaeth Tân ac Achub ar gyfer dŵr mewndirol neu gofynnwch am Wylwyr y Glannau os byddwch ar yr arfordir.
  • Gweiddwch ar yr unigolyn, "Nofiwch ataf i"
  • Taflwch rywbeth i'w helpu i aros uwchben wyneb y dŵr.
  • Os yw'n bosibl, estynnwch amdano/amdani i'w helpu
  • Peidiwch â mynd i'r dŵr rhag i chithau fynd i drafferthion hefyd
  • Cadwch lygad ar yr unigolyn a chasglwch wybodaeth ar gyfer y gwasanaethau brys
  • Cariwch ryw ffordd o alw am gymorth
  • Os gwelwch rywun rydych yn amau eu bod yn bwriadu eu niweidio'u hunain, galwch 999.