Llosgyddion Gardd



Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn annog y cyhoedd i feddwl ddwywaith ynghylch yr angen i losgi eu gwastraff, ac, yn lle hynny, eu bod yn cael gwared ar eu sbwriel mewn modd cyfrifol ar safleoedd gwaredu gwastraff awdurdodau lleol. 



Cyngor allweddol ar ddiogelwch

Os yw'n hanfodol eich bod yn llosgi eich sbwriel a'ch gwastraff gardd ar goelcerth, yna dilynwch y rheolau syml hyn sy'n cael eu hyrwyddo gan Gyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân:

  • Yn y lle cyntaf, a yw hyn yn gwbl angenrheidiol?
  • Os yw yn angenrheidiol, yna dylid gosod coelcerthi yn ddigon pell i ffwrdd oddi wrth adeiladau, ffensys, coed, ac adeiladau ac adeiladweithiau gardd.
  • Os yn bosibl, dylid llosgi sbwriel gardd mewn llosgydd gardd. Dylid gosod y llosgydd gardd ar arwyneb gwastad nad yw'n llosgadwy, er enghraifft slab patio.
  • NI DDYLID defnyddio hylifau neu gyflymyddion fflamadwy i gynnau'r goelcerth.
  • Dylid goruchwylio'r goelcerth trwy'r amser.
  • Dylai dull o reoli'r goelcerth fod wrth law, e.e. piben ddyfrhau.
  • Rhaid gwirio'r gyfraith/deddfau lleol bob amser i sicrhau cydymffurfedd.
  • Mewn achos brys dylid ffonio 999.

Bydd yn gymydog da

  • Os ydych yn llosgi unrhyw beth yn eich gardd, mae’n bwysig eich bod yn ystyried os ydyw’r mwg yn effeithio ar eich cymdogion.
  • Gall y mwg o’ch tân orfodi pobl i gau eu ffenestri a’u hatal rhag oeri eu cartrefi. Mae pobl sydd gydag anawsterau anadlu ac anhwylder anadlol yn aml yn dioddef yn fwy mewn amodau poeth ac mae’r mwg, sydd yn dod o dân, yn medru gwneud eu cyflwr yn waeth.
  • Os yw eich cymdogion wedi hongian dillad allan i sychu, rowch wybod iddynt eich bod yn bwriadu cynnau tân fel y gallent gael cyfle i gasglu’r dillad cyn i chi ddechrau llosgi.
  • Byddwch yn barod i ddiffodd eich tân. Os yw cymydog yn cael ei effeithio gan eich tân, peidiwch â chymryd hi’n bersonol. Y peth ystyriol i wneud yw diffodd y tân a lleddfu ei anesmwythder.