P'un a ydych chi yn yr ardd neu allan yn gwersylla, dilynwch ein cyngor diogelwch a gwnewch yn siŵr eich bod chi'n mwynhau'ch barbeciw ac yn osgoi anafiadau, difrod i eiddo neu gefn gwlad:
Diogelwch Barbeciw
Er mwyn osgoi anafiadau, neu ddifrod i eiddo, dilynwch y rhagofalon syml hyn:
- Peidiwch byth â gadael i farbeciw losgi heb fod rhywun yn cadw golwg arno.
- Sicrhewch fod y barbeciw wedi'i osod ar safle gwastad, ac yn ddigon pell oddi wrth siediau, coed neu lwyni.
- Cadwch blant, gemau awyr agored ac anifeiliaid anwes ymhell o'r ardal goginio.
- Cadwch fwced o ddŵr neu dywod wrth law ar gyfer argyfyngau.
- Sicrhewch fod y barbeciw yn glaear cyn ceisio ei symud.
- PEIDIWCH â thywallt unrhyw hylifau fflamadwy (megis hylif tanio neu betrol) ar y glo ar farbeciw sydd ynghyn.